Ceredigion: 'Etholaeth fwyaf idiosyncratig Cymru'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mamau Ceredigion yn trafod eu blaenoriaethau gwleidyddol

Ers degawdau bellach mae Ceredigion wedi bodoli ar ei phlaned etholiadol ei hun, gan ennill enw i'w hun fel etholaeth fwyaf idiosyncratig Cymru os nad Prydain gyfan.

Am y rhan fwyaf o'r ugeinfed ganrif roedd hi'n gadarnle i'r Rhyddfrydwyr - hyd yn oed pan oedd y cyfan o'r blaid seneddol yn gallu rhannu un tacsi.

Fe lwyddodd Llafur i'w chipio am gyfnod yn y 60au a'r 70au cyn iddi ddatblygu i fod yn faes y gad rhwng Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Yn 2017 Plaid Cymru aeth â hi gyda mwyafrif o ychydig dros 100, ac fe fydd y ddwy blaid Aros yn colbio ei gilydd eto beth bynnag am gytundebau etholiadol mewn etholaethau eraill.

Ond peidiwch â diystyru Llafur a'r Ceidwadwyr ychwaith.

Enillodd Plaid Cymru'r sedd y tro diwethaf gyda llai na 30% o'r bleidlais, a doedd y ddwy blaid fawr ddim mor bell â hynny ar eu holau nhw a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Pe bai'r Ceidwadwyr ond yn gallu sicrhau cefnogaeth trwch y 48% o'r etholwyr oedd am adael yr Undeb Ewropeaidd gallasai'r blaid ddod trwy'r canol a chymryd y sedd am y tro cyntaf yn ei hanes.

line

Dadansoddiad yr Athro Laura McAllister o Ganolfan Llywodraethiant Cymru

laura
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ceredigion yn un o'r seddi anoddaf i'w darogan meddai'r Athro Laura McAllister

Mae Ceredigion yn unigryw ac yn ddiddorol o ran y ffin denau rhwng Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, gyda'r sedd yn mynd yn ôl ac ymlaen rhwng y ddwy blaid.

Llwyddodd Plaid Cymru i ennill y sedd oddi wrth Mark Williams - a oedd wedi bod yn AS yno ers 2005 - yn 2017 gyda mwyafrif o 104.

Ond mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn teimlo'n wahanol am eu hymgeisydd eleni gyda'u safbwynt clir ar Brexit a chynnydd yn y poliau piniwn - dim ond 0.2% o swing maen nhw angen i gipio'r sedd.

Dydyn ni ddim eto'n gwybod sut bydd ffactorau lleol yn chwarae mas gan nad yw digwyddiadau cenedlaethol fel arfer yn effeithio ar benderfyniadau pobl Ceredigion.

Mae'r ornest rhwng Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwrthddweud cyhoeddiad y gynghrair Aros yr wythnos ddiwethaf gyda'r ddwy blaid sydd eisiau aros fwyaf yn y DU yn brwydro am bleidleisiau.

Ond, nid oedd Ceredigion am fod yn rhan o unrhyw gytundeb, gan ei fod yn rhy werthfawr i'r naill blaid.

Mae'n un o'r seddi anoddaf i'w ddarogan, ond os na allai'r Democratiaid Rhyddfrydol gipio Ceredigion, mae eu huchelgeisiau etholiadol yn edrych fel y bydden nhw ddim yn cyflawni'r hyn yr oedden nhw'n disgwyl.

Os bydd Ben Lake yn colli'r sedd y mae wedi ei chadw ers dwy flynedd a hanner, yna byddai rhaid i Blaid Cymru gadw gafael ar Arfon ac ennill Ynys Môn er mwyn iddi fod yn etholiad llwyddiannus iddyn nhw.

line

Pwy sy'n sefyll?

  • Gethin James - Plaid Brexit

  • Amanda Jenner - Ceidwadwyr

  • Ben Lake - Plaid Cymru

  • Dinah Mullholland - Llafur

  • Chris Simpson - Y Blaid Werdd

  • Mark Williams - Dem. Rhydd.