Pa werth i gytundeb etholiadol rhwng y pleidiau?

  • Cyhoeddwyd
dathluFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Ni wnaeth Plaid Cymru na'r Gwyrddion sefyll yn is-etholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed, sedd sydd nawr yn nwylo'r Democratiaid Rhyddfrydol

Mae Brexit wedi rhannu gwleidyddiaeth. Ond mae rhai yn son am roi'r gorau i'r ymladd.

Mae Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Gwyrddion eisiau rhoi hwb i ymgeiswyr sydd am aros yn yr Undeb Ewropeaidd, o ba bynnag plaid.

Gobaith y tair plaid yw atal Brexit, naill ai trwy refferendwm arall neu drwy ganslo'r broses yn llwyr.

Maen nhw'n trafod cytundeb fydd yn gwarchod y bleidlais dros 'Aros'. Mewn etholaethau ble mae gan un ohonyn nhw siawns o wneud yn dda, fe fyddai'r ddwy blaid arall yn camu o'r neilltu.

Fe ddigwyddodd hynny yn isetholiad Aberhonddu a Sir Faesyfed ym mis Awst.

Fe wnaeth Plaid a'r Gwyrddion benderfynu peidio sefyll gan adael y ffordd yn glir i arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, i herio'r Ceidwadwyr. Fe enillodd hi gyda mwyafrif o 1,425.

Allai'r un peth weithio mewn etholiad cyffredinol?

Byddai bron yn sicr o effeithio'r canlyniad yng Ngheredigion, y sedd sydd fwyaf tebygol o weld cystadleuaeth rhwng Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Ond a fyddai'r naill blaid yn fodlon ildio yma?

Mae Ynys Môn ar frig y rhestr o seddi targed Plaid Cymru.

Mae Llafur yn amddiffyn mwyafrif dros y Ceidwadwyr o 5,259 ar yr ynys. Daeth Plaid Cymru yn drydydd yn 2017.

Byddai Plaid Cymru hefyd wrth ei bodd yn cipio Llanelli hefyd, ble mae gan Lafur fwyafrif o 12,024.

Ond yn y ddwy sedd, pe bai Plaid wedi bachu holl bleidleisiau'r Democratiaid Rhyddfrydol ni fyddai wedi bod yn ddigon i ennill yn 2017.

Enillodd y Democratiaid Rhyddfrydol 479 pleidlais ar Ynys Môn a 548 yn Llanelli. Ni safodd y Gwyrddion yn yr un o'r ddwy sedd.

Hyd at 2015, roedd Caerdydd Canolog yn sedd Ryddfrydol, ond yn 2017 fe gwympon nhw i'r trydydd safle tu ôl i'r Torïaid ac fe chwyddodd mantais Lafur i 17,196.

Mae hynny'n llawer mwy na chyfanswm y pleidleisiau i Blaid Cymru a'r Gwyrddion, sef 1,419.

San SteffanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd etholwyr yn mynd i'r blychau pleidleisio ar 12 Rhagfyr

Yn Sir Drefaldwyn hefyd, roedd mwyafrif y Ceidwadwyr dros y Democratiaid Rhyddfrydol - 9,285 - llawer yn mwy na'r 2,484 pleidlais a enillwyd gan Blaid Cymru a'r Gwyrddion.

Yn Arfon, sedd hynod ymylol, mi allai cytundeb helpu Plaid Cymru i drechu Llafur.

Mae gan Plaid Cymru fwyafrif o 92 yno a chafodd y Democratiaid Rhyddfrydol 648 pleidlais yn 2017.

Ond mae'n sedd eisioes yn nwylo'r Blaid, felly ni fyddai'n newid y mathemateg yn Nhŷ'r Cyffredin.

Mae llawer wedi newid ers etholiad 2017. Mae gennym brif weinidog newydd ac rydyn ni ar ein hail gytundeb ymadael.

Rydym hefyd wedi cael etholiad arall: etholiad Ewrop eleni, pan lwyddodd Plaid Cymru i drechu Llafur mewn etholiad cenedlaethol am y tro cyntaf.

Fe ddywedodd yr Athro Roger Awan-Scully, o Brifysgol Caerdydd, bod "yna wendid i gytundeb o'r fath os taw ethol Senedd sydd eisiau aros yn Ewrop yw'r nod."

"Beth am ymgeiswyr Llafur sydd o blaid y Aros ac sy'n brwydro yn erbyn y Torïaid mewn seddi ymylol?

Oni fyddai uno pleidlais Plaid, y Gwyrddion a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ei wneud e'n anoddach iddyn nhw guro'r Ceidwadwyr?

Dywed yr Athro Awan-Scully: "Mae yna'r posibilrwydd, er enghraifft, o ymgeisydd Llafur sydd yn gryf o blaid aros yn yr UE - rhywun fel Anna McMorrin mewn sedd hynod gystadleuol fel Gogledd Caerdydd - yn gorfod ymladd yn erbyn Plaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ogystal â'r Ceidwadwyr.

"Byddai hynny ddim yn helpu achos y rhai o blaid Aros."