Y Deyrnas Unedig o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd
- Cyhoeddwyd
Mae pobl y Deyrnas Unedig wedi pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae mwyafrif o bobl Cymru hefyd wedi pleidleisio dros adael yr undeb.
Fe bleidleisiodd 854,572 (52.5%) o bobl Cymru o blaid gadael yr UE, o'i gymharu â 772,347 (47.5%) oedd am aros.
Mae nifer o ardaloedd traddodiadol Llafur fel Merthyr Tudful, Casnewydd, Caerffili, Blaenau Gwent ac Abertawe wedi penderfynu troi cefn ar Ewrop.
Dim ond Gwynedd, Ceredigion, Bro Morgannwg, Sir Fynwy a Chaerdydd sydd wedi pleidleisio dros aros yn yr Undeb.
• Y canlyniadau yn llawn, dolen allanol
• YN FYW: Yr ymateb i'r Refferendwm
• Mwy am Refferendwm yr UE ar Cymru Fyw , dolen allanol
Fe ddaeth y canlyniad cyntaf ychydig ar ôl 01:40 ym Merthyr Tudful, lle bleidleisiodd 56% o blaid Gadael a 44% o blaid Aros.
Mae`r Arglwydd Hain, rheolwr ymgyrch Aros Llafur wedi ymateb i ganlyniad Blaenau Gwent drwy drydar bod hyn yn dangos cymaint mae pobl cymoedd de Cymru yn teimlo eu bod wedi eu hamddifadu yn economaidd ac yn gymdeithasol.
Mae Alun Davies aelod Blaenau Gwent sy`n weinidog yn Llywodraeth Carwyn Jones yn cytuno. " mae hyn yn bleidlais gwrth-gwleidyddiaeth a gwrth-sefydliad. Mae pobl yn teimlo wedi eu dieithrio a`u dadgysylltu."
DADANSODDIAD YR ATHRO RICHARD WYN JONES, CANOLFAN LLYWODRAETHIANT CYMRU
Wele ddryllio'r dybiaeth ramantaidd honno fod Cymru'n genedl ac iddi ryw anian neu ymdeimlad Ewropeaidd arbennig. Wele brofi'n derfynol nad yw'r holl filiynau o arian Ewropeaidd a wariwyd yng Nghymru - ein harian 'ni', wrth gwrs, yn ôl yr ymgyrch Allan - wedi llwyddo i ddarbwyllo trigolion Cymru fod gwerth Aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Dim ond mewn 5 o'r 22 awdurdod lleol y pleidleisiodd mwyafrif o blaid Aros. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn Rhondda trodd yr etholwyr tu min ar ddau arweinydd, Carwyn Jones a Leanne Wood, a fu'n erfyn arnynt i gadw'r Deyrnas Gyfunol yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd. Gydag eithriadau Ceredigion a Gwynedd, yn yr union ardaloedd hynny sydd - yn ymddangosiadol o leiaf - wedi elwa fwyaf o arian Ewropeaidd y cafwyd y pleidleisiau mwyaf o blaid Gadael.
Gyda 72% o'r etholwyr Cymreig yn pleidleisio, cipiodd Gadael 53% o'r bleidlais o'i gymharu â'r 47% a fwriodd eu croes dros Aros. O gofio fod y sefydliad gwleidyddol Cymreig bron yn unedig yn eu cefnogaeth i'r achos Ewropeaidd, roedd yn fuddugoliaeth drawiadol i elynion integreiddio.
Bydd y goblygiadau i wleidyddiaeth, economi ac, yn wir, diwylliant Cymru yn bellgyrhaeddol. Go brin fod unrhyw un ohonom wedi dechrau mesur eu hyd a'u lled. Ond gellir bod yn sicr fod canlyniad y refferendwm y cynhaliwyd ar y 23ain o Fehefin wedi troi gwleidyddiaeth Cymru, Prydain ac Ewrop ar ei ben.
DADANSODDIAD ELLIW GWAWR, GOHEBYDD SENEDDOL BBC CYMRU
Mae Prydain wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond beth fydd yn digwydd nesaf?
Fyddwn ni ddim yn gadael yn syth, mae yna flynyddoedd o drafod a negydu o'n blaenau.
Y cwestiwn nawr yw pwy fydd yn ein harwain ni trwy'r trafodaethau dwys sydd i ddod. Ai David Cameron, sydd wedi dadlau mor chwyrn yn erbyn gadael yw'r person cywir, neu a oes angen wyneb newydd wrth y llyw?
Cyn hyn mae David Cameron wedi mynnu y bydd yn aros doed a ddelo, ond mae methiant ar y raddfa yma, yn ei gwneud hi'n anodd iawn iddo barhau.
Ond eto gyda'r bunt yn disgyn mor sylweddol â chymaint o ansicrwydd o'n blaenau, mae'r marchnadoedd yn chwilio am sefydlogrwydd.
Dyna pam y bydd David Cameron o fewn yr oriau nesaf yn camu allan o rif 10 downing street i wneud datganiad, yn ei gwneud hi'n glir, beth yw'r camau nesaf iddo fo a'r wlad.
Roedd 2.2m o bobl yng Nghymru yn gymwys i bleidleisio.
Gibraltar oedd y lle cyntaf i gyhoeddi. Fe wnaeth 96% bleidleisio o blaid aros, ond doedd y bleidlais ddim yn annisgwyl.
Roedd dau ddewis ar y papur pleidleisio - aros yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd, neu adael.
Dyma'r canrannau pleidleisio drwy'r siroedd gwahanol:
Abertawe 69.6%
Blaenau Gwent 68.1%
Bro Morgannwg 76.1%
Caerdydd 69.7%
Caerffili 70.7%
Casnewydd 70.2%
Castell-nedd Port Talbot 71.6%
Ceredigion 74.5%
Conwy 71.8%
Gwynedd 72.4%
Merthyr Tudful: 67%
Penfro 74.4
Pen-y-bont ar Ogwr 71.2
Powys 77%
Rhondda Cynon Taf: 67.5%
Sir Ddinbych 69.1
Sir Fynwy 76.2%
Sir Gaerfyrddin 74.1%
Sir y Fflint 74.9%
Torfaen 69.9
Wrecsam 71.6%
Ynys Môn 73.8%