Carwyn Jones yn galw am sicrwydd arian i Gymru

  • Cyhoeddwyd
carwyn jones

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi dweud ei fod wedi ysgrifennu at David Cameron yn gofyn a yw'r arian mae Cymru'n ei dderbyn o Ewrop wedi ei ddiogelu yn dilyn canlyniad y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn dilyn cyfarfod y Cabinet ddydd Llun, dywedodd Mr Jones mai'r flaenoriaeth nawr oedd derbyn sicrwydd am bron i £500m o arian o Ewrop sydd yn cael ei dderbyn gan Gymru'n flynyddol.

Dywedodd ei fod wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU yn gofyn a oedd yr arian yma wedi ei ddiogelu.

Mewn datganiad, dywedodd Mr Jones: "Yn ystod ymgyrch y refferendwm, fe wnaeth yr ochr i adael yr UE addewidion pendant y byddai'r arian hwn yn parhau i ddod i Gymru pe bai 'na bleidlais i adael yr UE.

"Yr wyf wedi ysgrifennu heddiw at y Prif Weinidog yn gofyn iddo gadarnhau bod pob ceiniog o'r arian hwn yn ddiogel."

"Mae angen cadarnhad yn syth oherwydd mae cannoedd o brosiectau ledled Cymru yn dibynnu ar gymorthdaliadau o Ewrop ac mae'u dyfodol yn y fantol oni bai y daw'r sicrwydd yma."

'Croesawu gwladolion tramor'

Cyfeiriodd at sawl sylw gan Aelodau'r Cabinet oedd yn tynnu sylw at y nifer o ddigwyddiadau o gasineb hiliol yn eu hetholaethau.

"Does dim byd wedi newid yn statws gwladolion tramor sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru," meddai.

"Maent yn dal i'w croesawu fel y buon nhw bob amser cyn datganoli, cyn sefydlu'r UE. Mae Cymru bob amser wedi bod yn wlad groesawgar a rhaid inni beidio â cholli golwg ar hynny."

Dywedodd hefyd y byddai unrhyw gytundeb ar adael yr UE yn gorfod derbyn sêl bendith y seneddau a chynulliadau datganoledig yn gyntaf, er na fyddai hyn yn golygu ail-edrych ar ganlyniad y refferendwm.

"Mae'r canlyniad a gyhoeddwyd yn oriau mân ddydd Gwener, a'r helynt gwleidyddol sydd wedi dilyn, wedi gadael llawer o bobl yn teimlo'n ddig, yn bryderus ac wedi'u drysu'n lân," meddai.

"Pa bynnag ffordd y pleidleisioch chi, i aros neu adael, bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i ddiogelu buddiannau Cymru."

Cymru annibynnol?

Yn y cyfamser, mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood yn dweud bod angen i'r DU fod yn "undeb o wledydd annibynnol" yn dilyn y bleidlais i aros yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd bod "popeth wedi newid" yn dilyn y refferendwm a bod "y DU fel rydyn ni'n ei adnabod ddim yn bodoli bellach".