Alun Cairns: 'Angen derbyn canlyniad y refferendwm'

  • Cyhoeddwyd
Alun Cairns

Mae angen i wleidyddion Cymru dderbyn canlyniad y refferendwm ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd a gweithio gyda'i gilydd i sicrhau ffyniant, yn ôl Ysgrifennydd Cymru.

Bydd Alun Cairns yn ymweld ag Aelodau Cynulliad ym Mae Caerdydd ddydd Mercher am y tro cyntaf ers cael ei benodi i'r cabinet.

Mae disgwyl iddo ddweud arth ACau bod "pobl Cymru a'r DU wedi gwneud eu penderfyniad" a'i bod yn amser i weithredu ar hynny.

Bythefnos yn ôl fe wnaeth pleidleiswyr ar draws y DU benderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Fe wnaeth mwyafrif yng Nghymru bleidleisio i adael, er bod Mr Cairns a'r Prif Weinidog, Carwyn Jones wedi ymgyrchu i aros.

'Hyder i fusnesau'

Mae disgwyl i Mr Cairns ddweud: "Mae'n rhaid i ni ddangos arweinyddiaeth gref a rhoi hyder i fusnesau a buddsoddwyr.

"Dydi siarad yn negatif ddim yn helpu neb. Rwy'n falch iawn o weld ymateb y gymuned fusnes yng Nghymru.

"Rydyn ni'n gadael sefydliad yr UE - dim troi ein cefnau ar ein ffrindiau, cymdogion a phartneriaid masnachu yn Ewrop.

"Rwy'n obeithiol am ein dyfodol ac am y Cymru a'r Prydain bydd rhaid i ni eu creu y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd."