Llafur Cymru: 'Dewis arall' yn lle Llywodraeth San Steffan

  • Cyhoeddwyd
Neuadd y gynhadledd yn LerpwlFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Carwyn Jones yn areithio yng Nghynhadledd Llafur yn Lerpwl

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi dweud bod Llafur Cymru'n dangos bod 'na ddewis arall yn lle Llywodraeth San Steffan.

Roedd yn annerch Cynhadledd Llafur yn Lerpwl lle dywedodd y byddai Llafur yn llwyddo mewn cyfnod anodd yng Nghymru.

Dywedodd y gallai Llafur Cymru "wneud gwahaniaeth i fywydau pobl".

Ond dywedodd ei fod yn disgwyl y byddai rhaid i Lywodraeth Cymru ymdopi â llai o arian o San Steffan.

Amddiffynnod record Llafur ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, gan nodi gwahaniaethau rhyngddi a Llywodraeth San Steffan.

"Mae rhestrau aros allan o reolaeth yn Lloegr a chleifion yn talu am brescripsynau tra bod rheini am ddim yng Nghymru," meddai.

Gallai Llafur yng ngweddill y DG, meddai, fod mor llwyddiannus â Llafur yn Etholiad y Cynulliad.

"Roedd hyn, meddai, yn anfon neges fod gan y blaid weledigaeth wahanol."

Fe gondemniodd bolisïau economaidd y llywodraeth glymblaid yn Llundain.

Yn y cyfamser, mae Aelod Llafur yn y Cynulliad wedi dweud bod canlyniad Etholiad y Cynulliad ym mis Mai yn awgrymu bod barn y cyhoedd yn troi o blaid Llafur.

Cymru yw'r unig ran o'r DG lle mae Llafur yn dal mewn grym.

Dywedodd yr Athro Mark Drakeford, ymgynghorydd i'r cyn Brif Weinidog Rhodri Morgan cyn ei olynu'n AC Gorllewin Caerdydd: "Bydd mwy o sylw am yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru yn Lerpwl yr wythnos hon nag ar unrhyw adeg yn y ddegawd ddiwethaf.

"Wedi canlyniadau mis Mai, mae barn y cyhoedd yn troi o blaid Llafur."

'Llywodraeth weithredol'

Ychwanegodd fod Llafur yn gwneud popeth i amddiffyn yr economi gyda "llywodraeth weithredol yng Nghymru" tra bod Llundain yn "eistedd ar eu dwylo a gobeithio y bydd popeth yn iawn yn y diwedd."

Ond gan fod gan Lafur 30 o'r 60 sedd yn y Cynulliad, mae Llafur yn brin o'r mwyafrif angenrheidiol ac fe fydd angen cymeradwyaeth aelodau'r Wrthblaid er mwyn creu deddfau.

Bydd Mr Jones yn cyflwyno rhaglen lywodraethol am y pum mlynedd nesaf ym Mae Caerdydd ddydd Mawrth.

Yn ogystal â chynlluniau am ddeddfau newydd, dywedodd y byddai'n cynnwys targedau mesuradwy fel y gallai pobl farnu record Llafur dros y cyfnod.

Rhybuddio

Cyn ei araith dywedodd fod teimlad ymysg undebau nad oedd Llywodraeth San Steffan wedi ymgynghori'n ddigonol ar gynlluniau i ddiwygio pensiynau.

"Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig bod yn ofalus wrth fynd ar streic. Mae'n bwysig egluro i'r cyhoedd beth yw'r rhesymau am wneud hynny."

Mae arweinydd Llafur, Ed Miliband, wedi dweud mai "camgymeriad" fyddai mynd ar streic wrth i drafodaethau barhau.