Adnoddau newydd i Barc Eirias
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwaith adeiladu wedi'i gwblhau ar y prosiect gwerth £6.5 miliwn i drawsnewid canolfan chwaraeon ac adloniant ym Mae Colwyn.
Dros yr wyth mis diwethaf mae canolfan dan do amlbwrpas mawr wedi'i chodi ar safle Parc Eirias ar gyfer defnydd cymunedol, cynhadleddau a digwyddiadau busnes a masnachol.
Y tu allan y mae stadiwm gyda phrif eisteddle a chyfleusterau newydd i wylwyr o amgylch y maes chwarae.
Gyda dim ond gosodiadau a ffitiadau i'w gosod, mae prosiect Canolfan Ddigwyddiadau Parc Eirias bron â chael ei gwblhau.
Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Bwrdeistref Conwy, Dilwyn Roberts, y bydd Canolfan Digwyddiadau Parc Eirias yn "gonglfaen" i'r cynlluniau adfywio ar gyfer Bae Colwyn.
"Bydd yn cynnig lleoliad ar gyfer digwyddiadau cymunedol, diwylliannol a chwaraeon.
"Mae'n gyffrous gweld y prosiect hwn yn dwyn ffrwyth."
Diwrnodau agored
Bydd Canolfan Digwyddiadau Parc Eirias yn cael ei agor yn swyddogol gan Brif Weinidog Cymru ym mis Tachwedd.
Bydd Diwrnodau Agored ar Dachwedd 12 ac 13 er mwyn i'r cyhoedd ddod i gael edrych o gwmpas a phrofi'r cyfleusterau sydd ar gael.
"Roeddem eisiau i'r ganolfan fod yn un o'r safon gorau posibl, ac roedd angen gwaith tîm i gyflawni hynny," meddai'r cynghorydd Graham Rees, Aelod Cabinet Arweiniol y prosiect.
"Mae'n wych gweld popeth yn dod at ei gilydd rŵan ac rydym yn edrych ymlaen yn arw at yr agoriad swyddogol ym mis Tachwedd."
Bydd cyfle i glybiau lleol a grwpiau cymunedol fynd o amgylch y cyfleusterau newydd yn ystod mis Hydref.
Cafodd y prosiect ei ei ariannu gan £3.8 miliwn o Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewrop (ERDF) a Chronfa Arian Cyfatebol a Dargedir Llywodraeth Cymru.
Derbyniwyd arian hefyd drwy gronfa Ardal Adfywio Strategol Llywodraeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac Undeb Rygbi Cymru.