Glastir: 'ffermwyr wedi eu camarwain'
- Cyhoeddwyd
Mae undeb ffermwyr NFU Cymru yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi eu twyllo nhw hefo'r drefn newydd o daliadau amgylcheddol gafodd ei chyhoeddi heddiw.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'r newid yn newydd da i ffermwyr, ond mae NFU Cymru yn dweud y bydd llawer ar eu colled.
Mae llywydd undeb NFU Cymru, Ed Bailey, wedi beirniadu'r newidiadau pellach i'r cynllun Glastir.
Dywedodd y byddai ffermwyr sy'n gymwys i dderbyn taliadau Ardal Lai Ffafriol (ALF) yn colli taliad ychwanegol o 20% o dan gynllun Glastir.
Cymhorthdal
Mae oddeutu 80% o dir Cymru yn gymwys ar gyfer taliadau ALF.
Mae Mr Bailey yn mynnu bod ffermwyr wedi cael eu camarwain am na fydd yna daliadau ychwanegol ar gael i ffermwyr yn yr ardaloedd llai ffafriol hyn.
Ar hyn o bryd mae pob ffermwr yng Nghymru yn gymwys i dderbyn cymhorthdal tir o £28 y cyfer ond mae ffermwyr yn ardaloedd llai ffafriol yn derbyn 20% yn fwy (£5.60) sy'n golygu eu bod nhw'n derbyn £33.60 y cyfer.
Dywedodd NFU Cymru y byddai'r cymhorthdal yn cynyddu i £34 y cyfer ond ni fyddai ffermwyr mewn ardaloedd llai ffafriol yn derbyn y taliad ychwanegol o 20%.
Ychwanegodd yr undeb fod argymhellion gan Grŵp Adolygu Annibynnol Glastir (GAAG) i gynyddu'r cymhorthdal wedi'u cymeradwyo gan Y Comisiwn Ewropeaidd.
Nod cynllun Glastir yw talu ffermwyr i warchod yr amgylchedd ac fe fydd yn cymryd lle pum cynllun rheoli tir y flwyddyn nesaf.
Dywedodd Mr Bailey: "Mae hi wedi cymryd dwy flwyddyn a hanner i Lywodraeth Cymru sylweddoli nad yw hi'n bosib creu taliad gwahanol i'r rheiny sy'n ffermio 80% o dir Cymru.
'Teimlo'n rhwystredig'
"Fe ddatganais fy mhryderon ynghylch cynllun Glastir wrth y Dirprwy Gweinidog Amaeth, Alun Davies, tuag wythnos yn ôl a chefais fy nghynghori mai dim ond mân newidiadau oedd angen ar y cynllun," meddai.
"Ond dim ond wythnos yn ddiweddarach rydyn ni wedi canfod fod y cynllun wedi newid yn sylfaenol.
"Rwy'n credu bod ffermwyr wedi cael eu camarwain.
"Fe fyddan nhw'n teimlo'n rhwystredig a dryslyd gan y newidiadau hyn."
Ychwanegodd fod gan ffermwyr dim ond pythefnos i benderfynu mynd ymlaen â'i cheisiadau ar gyfer cynllun Glastir ai peidio yn sgil y newidiadau.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r mater mae NFU Cymru wedi codi ynglŷn â thaliadau Ardaloedd Llai Ffafriol a'r taliadau eraill dim ond yn gymwys ar gyfer cynllun Glastir.
"Ni fydd ffermwyr Ardaloedd Llai Ffafriol yn colli allan yn sgil y penderfyniad hwn."