Rhoi organau: Galw am fwy o ymchwil
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alw am fwy o waith ymchwil i ganiatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau, wrth i Gymru agosáu at fod y cynta' yn y DU i fabwysiadu'r polisi.
Mae tîm o Brifysgol Ulster wedi dod i'r casgliad fod Cymru'n gyson yn cyflenwi mwy o organau a phobl sy'n fodlon eu rhoi nag unrhyw ran arall o'r DU.
Ond maen nhw'n dweud fod cyfreithiau'n ymwneud â chaniatâd tybiedig ar draws Ewrop yn dangos canlyniadau cymysg a bod angen rhagor o ymchwil.
Yn ôl rhai sy'n ymgyrchu dros newid y gyfraith i ganiatâd tybiedig, maen nhw wedi codi ymwybyddiaeth o'r sefyllfa, ond mae rhai sy'n gwrthwynebu yn rhybuddio y gallai hynny weithio yn eu herbyn.
Bu ymchwilwyr Ulster yn dadansoddi data Adran Waed a Thrawsblaniadau'r gwasanaeth iechyd ar gyfer pob un o'r pedair gwlad yn y DU rhwng 1990 a 2009.
Maen nhw wedi bod yn cymharu ffigyrau cofrestru a rhoddion o wledydd Ewropeaidd eraill.
Uwch na'r cyfartaledd
Daeth y gwaith ymchwil, dolen allanol i'r casgliad fod Cymru "yn gyson yn perfformio'n well" na gwledydd eraill y DU, nid yn unig yn nhermau'r niferoedd oedd yn cofrestru, ond hefyd o ran canran yr organau oedd yn cael eu rhoi, oedd yn uwch na'r cyfartaledd trwy'r DU am ran helaeth o'r 20 mlynedd ddiwetha'.
Roedd awduron yr astudiaeth yn argymell bod angen rhagor o waith ymchwil ar ganiatâd tybiedig, fyddai'n golygu fod yn rhaid i bobl ddewis peidio â rhoi organau, yn hytrach na dewis eu rhoi fel sy'n digwydd ar hyn o bryd.
Mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu cyflwyno polisi o ganiatâd tybiedig, dolen allanol, gyda'r amod fod aelodau o'r teulu yn cael cyfle i leisio barn.
Mae'r syniad yn cael cefnogaeth cyrff fel Sefydliad Aren Cymru.
Ond mae eraill yn feirniadol, fel Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan.
Fe ddywedodd yn ddiweddar y dylai organau gael eu rhoi "fel rhodd" yn hytrach nag "'ased i'r wladwriaeth".
Gwledydd Ewrop
Yn ôl yr astudiaeth, roedd nifer y rhoddion organau wedi dyblu yn Sbaen, ble mae system "feddal" o ganiatâd tybiedig.
Ond yn Sweden - sydd â pholisi o ganiatâd tybiedig - roedd y gyfradd yn debyg i'r Almaen a Denmarc, sydd â systemau tebyg i'r DU, ble mae'n rhaid cofrestru i roi organau.
"Cyn ystyried unrhyw newid yn y gyfraith o ran rhoi organau, mae angen rhagor o ymchwil i wahaniaethau rhanbarthol a thymhorol o ran rhoi organau, yn ogystal â materion cyfundrefnol, ymarferion ac agweddau allai effeithio ar y nifer sy'n rhoi organau," meddai'r adroddiad.
"Mae cymhariaeth o wledydd yr Undeb Ewropeaidd, yn enwedig Sbaen, yn awgrymu nad yw newid yn y gyfraith yn unig yn mynd i gynyddu nifer yr organau sy'n cael eu rhoi."
Mae Dai Lloyd, meddyg teulu o Abertawe - a geisiodd gyflwyno deddf ar ganiatâd tybiedig tra'n aelod o'r cynulliad - wedi croesawu casgliadau'r ymchwil.
"Mae'n destament i'r dadleuon ry'n ni wedi eu cael dros y blynyddoedd diwetha' gydag ymgyrchoedd gan Lywodraeth Cymru a Sefydliad Aren Cymru," meddai.
"Mae wedi mynd rhywfaint o'r ffordd i gynyddu ymwybyddiaeth o roi organau."
Yn ôl Roy Thomas, cadeirydd Sefydliad Aren Cymru, mae 'na lawer o ffordd i fynd cyn dal i fyny gyda gwledydd eraill yn Ewrop.
"Rydyn ni'n dal i weld 30% (o bobl yn cofrestru i roi organau) - ry'n ni eisiau gweld hynny'n dyblu.
"Mae'r gofrestr yn hen ffasiwn ac wedi dyddio...mae gan wledydd eraill nifer uwch o bobl yn rhoi organau na ni."
Gorfodaeth
Ond honnodd David Webb - ymgynghorydd arennol, sydd wedi ymddeol o Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr yn ddiweddar - y byddai cyflwyno caniatâd tybiedig yn "cymhlethu trefn pethau".
Roedd o'n credu bod cymunedau clos yn ymateb yn dda i apelio, ond y gallan nhw ymateb yn wael i orfodaeth.
"Mae Cymru wedi gwneud yn dda ar sail wirfoddol ond mae 'na lawer o bobl yn erbyn y syniad o'r wladwriaeth yn cymryd organau pobl," meddai.
"Y peth pwysica' yw bod nifer y trawsblaniadau'n cynyddu - mae unrhyw beth sy'n sefyll yn ffordd hynny'n annoeth."
Yn 2008 fe wrthododd tasglu ar ran llywodraeth y DU'r syniad o ganiatâd tybiedig, gan ddweud na fyddai o reidrwydd yn cynyddu nifer y bobl fyddai'n rhoi organau ond y gallai gostio'n ddrud.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Medi 2011