Ymchwiliad i ollyngiad nwy
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad wedi dechrau ar safle LNG cwmni Dragon yn Aberdaugleddau wedi'r hyn gafodd ei ddisgrifio fel "gollyngiad bach" o un o danceri storio'r cwmni.
Daw'r ymchwiliad yn dilyn protest gan grŵp lleol oedd yn cwyno eu bod wedi gweld fflachio ar y safle ac wedi clywed ffrwydrad bychan.
Cafodd y grŵp glywed mai pibell nitrogen yn rhwygo yn ystod gwaith cynnal a chadw oedd achos y ffrwydrad.
Dywed y grŵp - Safe Haven - eu bod yn poeni nad ydynt wedi cael clywed manylion llawn y digwyddiad, a bod y tanc storio wedi diodde' niwed tymor hir.
'Ddim yn arwyddocaol'
Ond mae datganiad ar y cyd, dywedodd y Gweithgor Iechyd a Diogelwch ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru fod y cwmni wedi hysbysu'r awdurdodau priodol a bod ymchwiliad i'r digwyddiad yn cael ei gynnal.
Dywed y datganiad: "Mae perchennog y safle yn cydweithio'n llawn gyda'r ymchwiliad ac mae arbenigwyr wedi ymweld â'r safle.
"Gall yr awdurdodau gadarnhau fod y perchennog yn gweithredu'r holl fesurau angenrheidiol i leihau'r risg i weithwyr ac i'r cyhoedd wrth i'r ymchwiliad ddigwydd.
"Anwedd nwy naturiol ac nid hylif sydd wedi gollwng. Yr amcangyfrif ar hyn o bryd yw nad yw'r gollyngiad yn un arwyddocaol o safbwynt yr amgylchedd."