BBC: '2,000 o swyddi'n diflannu'
- Cyhoeddwyd
Fe allai 2,000 o swyddi ddiflannu yn y BBC yn gyffredinol yn ystod y pum mlynedd nesa wrth i'r gorfforaeth geisio arbed 20% ar ei chyllideb.
Mae hynny tua 10% o'r gweithlu.
Bore Iau dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, y byddai 100 o swyddi'n diflannu yn BBC Cymru am fod angen arbed mwy na £10m o fewn pum mlynedd.
Fe fydd y toriadau mwya, meddai, mewn gwasanaethau cefnogi ac fe fydd rhai rhaglenni nad ydyn nhw ar yr oriau brig yn diflannu.
"Rhaid i ni wario o fewn ein hincwm ni," meddai.
"Mae'n glir bod angen i ni dorri'n ôl mewn rhai meysydd.
Dwy flynedd
"Yr hyn yr ydyn ni wedi ceisio ei wneud yw amddiffyn y cynnyrch sy, yn ein barn ni, yn hollbwysig i rôl genedlaethol BBC Cymru."
Dywedodd y byddai'r rhan fwya o'r toriadau o fewn y ddwy flynedd nesa.
Fe fydd hyd at 57 o swyddi'n diflannu yn y gwasanaethau cefnogi, hyd at 14 yn Newyddion, hyd at 9 yn Radio Cymru a hyd at 10 yn Radio Wales.
Y bwriad, meddai, oedd dal i fuddsoddi mewn rhaglenni gwleidyddol, rhaglenni materion cyfoes fel Week In Week Out a chryfhau'r Post Cyntaf a Good Morning Wales.
Rhewi
Ar wahân i rygbi a phêl-droed, fe fydd llai o ddarllediadau byw o chwaraeon a llai o ddarllediau byw o'r Cynulliad a chynadleddau gwleidyddol. Fe fydd rhaglen Dragon's Eye yn diflannu.
Roedd yr adolygiad oherwydd penderfyniad Llywodraeth San Steffan i rewi lefel y drwydded deledu dros y chwe' blynedd nesa'.
Daw 16% o'r toriad o ganlyniad uniongyrchol i rewi'r drwydded ond dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Mark Thompson, yn gynharach eleni y byddai angen 4% arall o arbedion.
Fe gyhoeddodd Llywodraeth Prydain y llynedd na fyddai'r drwydded deledu yn codi o'r lefel bresennol o £145.50 y flwyddyn am o leia'r chwe blynedd nesa.
£15m
O dan Delivering Quality First rhaid i BBC Cymru wneud arbedion o £15 miliwn y flwyddyn o'i chyllideb erbyn 2013.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, fod y BBC yn wynebu "penderfyniadau anodd er mwyn gwneud arbedion sylweddol dros y blynyddoedd nesaf".
Dywedodd ei fod wedi trafod gyda'r Arglwydd Patten, dolen allanol, Cadeirydd Ymddiriedolwyr y BBC, yn gynharach eleni am effaith unrhyw doriadau ar ddyfodol darlledu cyhoeddus yng Nghymru.
"Fel cenedl gyda'i hiaith ei hun, ei diwylliant ei hun a'i sefydliadau gwleidyddol, mae cyfryngau cryf yn allweddol i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr sy'n hysbysu, addysgu ac ysbrydoli pobl Cymru," meddai.
Dywedodd iddo gael cyfarfod gyda Chyfarwyddwr BBC Cymru ddydd Iau a chael sicrwydd bod y BBC yn "cymryd camau i warchod holl wasanaethau newyddion dyddiol yn y ddwy iaith ac gwarchod buddsoddiad mewn rhaglenni materion cyfoes a gwleidyddol yng Nghymru".
"Mae darpariaeth newyddion a materion cyfoes BBC Cymru o bwys gwirioneddol i wlad fach gydag adnoddau cyfryngau cyfyngedig," meddai.
'Cam ola'
"Er bod y cyhoeddiad yn achos pryder i'r gweithwyr rwy'n falch clywed y bydd diswyddiadau gorfodol yn gam ola ac fel llywodraeth byddwn yn gwneud popeth posib i helpu cynnal dyfodol ffyniannus i'r BBC yng Nghymru."
Dywedodd Suzy Davies, llefarydd y Ceidwadwyr ar dreftadaeth, ei bod yn "gwbl allweddol bod y BBC yn gwarchod y ddarpariaeth newyddion yng Nghymru".
"Dwi'n falch bod y prif raglenni Cymraeg wedi eu cadw ond yn hynod siomedig na fydd Dragon's Eye yn parhau ar ei ffurf bresennol.
"Dwi'n hyderus y bydd y cynnydd i gwmnïau annibynnol o fewn BBC Cymru yn help i wynebu heriau newydd a chreadigol.
"Rwyf wedi fy nghalonogi na fydd 'na doriadau i wasanaeth newyddion dyddiol y gorfforaeth gan obeithio nad oes 'na ddrwg yn y caws gan nad yw'r manylion llawn wedi eu cyhoeddi."
Datganoli
Dywedodd Bethan Jenkins, llefarydd treftadaeth Plaid Cymru, fod y toriadau yn tanlinellu eu dadl y dylai darlledu gael ei ddatganoli.
"Mae'n allweddol bod penderfyniadau sy'n effeithio ar fywydau pobl Cymru yn cael eu gwneud yng Nghymru.
"Mae angen rhwystro'r 'erydu fesul camau bach' - a gwneud yn siwr bod gan BBC Cymru'r adnoddau i adlewyrchu'n gywir y newidiadau yng Nghymru.
"Nid hon yw'r ffordd i ddemocratiaeth fodoli a ffynnu ac mae'r hyn sy'n digwydd yn cryfhau'r ddadl am ymchwiliad annibynnol i'r cyfryngau yng Nghymru."
Dywedodd llefarydd ar ran Undeb y Newyddiadurwyr: "Mae nifer o streiciau wedi bod oherwydd torri swyddi yn y BBC.
"Dyw'r setliad ynglŷn â'r drwydded deledu ddim yn ystyried beth mae'r gynulleidfa am gael am ei harian.
"Credwn yn gryf fod rhaid ailystyried y mater a bod angen dadl agored a thryloyw am ariannu'r BBC yn y dyfodol."