Cyngor: Ffordd osgoi yn llwyddiant
- Cyhoeddwyd
Mae ffordd osgoi yn Rhondda Cynon Taf yn cael ei defnyddio ar gyfartaledd 20,000 o weithiau bob dydd.
Mae'r cyngor sir wedi datgan bod y ffordd newydd wedi arbed 7 miliwn siwrnai trwy Bentre'r Eglwys a bod y nifer o gerbydau sy'n teithio trwy'r pentref wedi gostwng 70%.
Costiodd y ffordd osgoi £90 miliwn i'w hadeiladu a chafodd ei hagor flwyddyn yn ôl, dolen allanol.
Hwn oedd y cynllun ffordd mwyaf a gafodd ei thalu gan gyngor sir ym Mhrydain.
'Diolchgar'
Roedd y prosiect yn cynnwys adeiladu tair pont ar gyfer , dolen allanol a gostiodd £190,000.
Dywedodd aelod cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf sy'n gyfrifol am drafnidiaeth, Andrew Morgan: "Mae'r cymunedau lleol wedi gweld y gostyngiad sylweddol mewn tagfeydd traffig.
"Rwy'n gwybod fod trigolion yn ddiolchgar am y cynllun hwn."
Ychwanegodd Mr Morgan fod y ffordd osgoi wedi helpu datblygiad economaidd yr ardal.