Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi canllawiau newydd ar fwlio

  • Cyhoeddwyd
Person ifanc ar gyfrifiadurFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,

Dywed pennaethiaid ysgolion fod bwlio ar y we yn broblem gynyddol

Bwlio ar y we mewn ysgolion yw testun canllawiau newydd sydd wedi eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

Gyda mwy o bobl ifanc nag erioed yn defnyddio'r ffonau diweddaraf a rhwydweithiau cymdeithasol ar y we, mae'r cyngor newydd wedi ei anelu at amddiffyn plant ac athrawon.

Fe ddywed athrawon eu bod yn pryderu am fwlio o'r fath - rhywbeth sy'n fwy cyffredin oherwydd datblygiad aruthrol o gyflym mewn technoleg.

Dywedodd gweinidogion y dylai pawb ym myd addysg weithredu er mwyn atal bwlio fel hyn.

'Pryder cynyddol'

Dywedodd cyfarwyddwr undeb NAHT Cymru, Anna Brychan: "Rydym yn arbennig o falch o'r sylw ar seiber-fwlio, sydd yn bryder cynyddol ac sy'n medru cael effaith ddinistriol ar ddisgyblion ac athrawon sy'n cael eu targedu.

"Mae'n mynd yn fwyfwy anodd monitro rhyngweithiad plant gyda'i gilydd oherwydd cyflymder aruthrol datblygiadau technoleg a gwefannau cymdeithasol.

"Mae plant bron bob tro yn gynt i ddeall y dechnoleg na'r oedolion o'u cwmpas. Rhaid i rieni ac ysgolion ddatblygu ffyrdd gwell o ddelio gyda hyn, a gobeithio bydd y canllawiau newydd yn gymorth."

Mae'r ddogfen 'Parchu Eraill', a gyhoeddwyd ddydd Llun, yn canolbwyntio ar bum math o fwlio lle mae gwahaniaethu yn erbyn eraill yn digwydd, sef :-

  • Bwlio ar sail hil, crefydd a diwylliant;

  • Bwlio ar sail anghenion addysgol arbennig ac anabledd;

  • Bwlio homoffobaidd;

  • Bwlio ar sail rhyw a rhywioldeb;

  • Seiber-fwlio.

'Siapio cymeriad'

Mae'r canllawiau yn cynnig cyngor ymarferol ar sut i atal ac ymateb i achosion o fwlio mewn ysgolion, fel y gall cynghorau ac athrawon ddatblygu strategaethau i ddelio gyda nhw.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews: "Gall ysgolion fod yn sylfaenol wrth siapio cymeriad a pharatoi pobl ifanc ar gyfer y dyfodol.

"Mae'n bwysig fod pawb sy'n rhan o addysg person ifanc yn deall bwlio ar bob ffurf, ac yn gweithredu er mwyn ei atal ynghyd ag ymateb i achosion pan maen nhw'n digwydd."

Ychwanegodd fod y canllawiau newydd wedi deillio o argymhellion Adolygiad Cenedlaethol o Ymddygiad a Phresenoldeb.

21ain ganrif

Roedd rhaid i'r canllawiau newydd, medd Mr Andrews, adlewyrchu'r datblygiadau mewn technoleg a'r rôl y maent yn chwarae ym mywydau y rhan fwyaf o bobl ifanc.

Ond ychwanegodd y dylai ysgolion fod yn ymwybodol o sut y gall dyfeisiau fel ffonau symudol a gwefannau fel Facebook a Twitter gael eu camddefnyddio i fwlio disgyblion ac athrawon.

"Rydym yn byw yn yr 21ain ganrif," meddai, "lle mae technoleg yn rhan bwysig a chyson o'n bywydau bob dydd.

"Rydym yn cydnabod hyn, a dyna pam yr ydym yn cyhoeddi'r canllawiau manwl yma ar seiber-fwlio, gan amlinellu'r camau y dylid eu cymryd i amddiffyn plant ac athrawon."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol