Amaeth: Setliad boddhaol i Gymru?
- Cyhoeddwyd
Mae undebau amaeth wedi mynegi pryder ynghylch cynlluniau i ddiwygio polisi cymorth amaethyddol yr Undeb Ewropeaidd.
Bydd y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) yn cael ei ddiwygio yn 2013 i gyd-fynd â chyllideb newydd yr Undeb Ewropeaidd.
Ar hyn o bryd mae ffermwyr Cymru yn derbyn £260m o'r cynllun, sy'n cynrychioli 80% o'u hincwm, tra bod ffermwyr yn y DU yn ei chyfanrwydd yn derbyn £4 biliwn.
Dywedodd llywydd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Ed Bailey, ei fod yn gweithio i sicrhau "setliad boddhaol" i Gymru.
'Eithriadol o bwysig'
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Amaeth, Alun Davies: "Mae'n gyfnod eithriadol o bwysig i ffermwyr a ffermio yng Nghymru.
"Bydd rheolau'r comisiwn yn pennu'r taliadau hyd at 2020," meddai.
Y llynedd dywedodd un o bwyllgorau'r Cynulliad na ddylai ffermwyr Cymru fod ar eu colled ar ôl i'r polisi gael ei ddiwygio.
Roedd adroddiad is-bwyllgor Datblygu Gwledig y Cynulliad yn galw ar lywodraeth Cymru i roi blaenoriaeth i ddiogelu cyllideb PAC, er mwyn sicrhau nad yw Cymru'n cael swm llai o arian ar ôl 2013.
Roedd yr adroddiad yn nodi y dylai darparu incwm digonol i ffermwyr a diogelwch bwyd barhau i fod yn brif amcanion ar gyfer y PAC, ac y dylid sicrhau bod cymorth i gynhyrchu bwyd mewn ardaloedd llai ffafriol yn cael ei ddiogelu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2011