Aamir Siddiqi: Mam yn sôn am ei cholled
- Cyhoeddwyd
Mae mam welodd ei mab yn cael ei drywanu wrth iddo agor y drws i ddau ddyn wedi dweud wrth lys ei fod yn "gwbl arbennig".
Dywedodd Parveen Ahmad y gallai Aamir Siddiqi wedi bod yn "newyddiadurwr gwych, cyfreithiwr gwych neu'n wych ym mhopeth".
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Aamir am fod yn gyfreithiwr neu'n was sifil fel ei dad.
Bu farw'r mab 17 oed yn ei gartref yn ardal y Rhath, Caerdydd, yn 2010.
'Gwerthfawr'
Mae Ben Hope, 38 oed, a Jason Richards, 37 oed, yn gwadu llofruddiaeth a cheisio llofruddio ac wedi beio ei gilydd.
Dywedodd y fam: "Roedd fy mab yn anghyffredin, deallus, ufudd, caredig, doniol, gofalgar ... dwi ddim yn credu fy mod i'n nabod neb fel fe."
Ychwanegodd ei bod hi'n dweud wrth ei mab yn aml: "Aamir, rwyt ti mor werthfawr i mi."
Dywedodd ei bod hi wastad eisiau bachgen am fod ganddi dair merch a'i fod yn "fendith".
"Roeddwn i'n ei garu'n fawr iawn."
Cafodd hi a thad Aamir, Sheikh Iqbal Ahmad, eu hanafu yn ystod yr ymosodiad yn eu cartref ym mis Ebrill 2010.
Chwarae tric
Clywodd y llys fod y fam yn credu bod rhywrai'n ceisio chwarae tric ar ei mab pan ddaeth dau ddyn yn gwisgo mygydau at y drws.
Mewn cyfweliad a gafodd ei gynnal y diwrnod ar ôl i'w mab gael ei ladd dywedodd hi ei bod yn meddwl bod y dynion yn dal arfau ffug.
Ychwanegodd ei bod "wedi colli'r person yr oedd yn ei charu fwyaf" pan gafodd ei hunig fab ei drywanu i farwolaeth ym mis Ebrill 2010.
Dywedodd fod yr ymosodiad ar ei mab yn frawychus a'i bod hi mewn cymaint o sioc fel ei bod wedi deialu rhif naw bedair gwaith wrth geisio galw ambiwlans.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2011