Cwmni i ddechrau hedfan o Gaerdydd
- Cyhoeddwyd
Bydd y cwmni awyrennau o Sbaen, Vueling, yn dechrau hedfan yn syth o Gaerdydd i Barcelona ym mis Mawrth 2012.
Cyhoeddodd y cwmni mai'r gwasanaeth bob dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Sadwrn fydd y cyntaf iddyn nhw eu cynnal i'r ddinas o'r DU.
Daeth cyhoeddiad ddydd Gwener ddau ddiwrnod cyn i gwmni BMIbaby ddod a'u gwasanaethau o Gaerdydd i ben gan drosglwyddo'u hawyrennau i leoedd eraill.
Dywedodd lefarydd ar ran Maes Awyr Caerdydd: "Rydym yn parhau i weithio'n galed i ddenu gwasanaethau eraill."
'Disgwyl defnydd uchel'
Yn ôl prif weithredwr Vueling, Alex Cruz, roedd y cynlluniau ar gyfer Chaerdydd wedi bod ar y gweill ers tro.
Ychwanegodd: "Mae Caerdydd yn cynnig gwasanaeth effeithlon ac rydym yn rhagweld y bydd yn boblogaidd ymysg teithwyr sy'n chwilio am wyliau byr a chyfleus i ddinasoedd.
"Mae nifer o fyfyrwyr o fewn cyrraedd i'r maes awyr ac rydym yn disgwyl defnydd uchel wrth i deithwyr wneud y gorau o'r cyfleoedd am deithiau cyswllt sydd gennym."
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Maes Awyr Caerdydd, Patrick Duffy: "Mae'n bleserus iawn cael croesawu cwmni awyrennau newydd a thaith newydd i Faes Awyr Caerdydd.
"Mewn hinsawdd economaidd heriol, mae'n galonogol gweld cwmni awyr yn ystyried masnachu mewn marchnadoedd newydd."
Colli teithwyr
Daeth croeso i'r cyhoeddiad gan Weinidog Busnes Cymru, Edwina Hart, a ddywedodd fod hyn yn newyddion da i'r maes awyr.
"Bydd y daith newydd yma yn agor cyfleoedd newydd i ddatblygu a chryfhau cysylltiadau busnes a thwristiaeth rhwng Cymru a Sbaen, ac rydym yn obeithiol y bydd teithiau eraill yn dilyn."
Daw'r cyhoeddiad wrth i BMIbaby, sy'n cyflogi 69 o bobl yng Nghaerdydd, baratoi am ei daith olaf o'r maes awyr ddydd Sul.
Bydd y cwmni'n symud dwy awyren oddi yno i Ogledd Iwerddon a chanolbarth Lloegr, gan feio'r hinsawdd economaidd.
Mae Caerdydd wedi colli mwy o deithwyr dros y tair blynedd ddiwethaf nag unrhyw un o feysydd awyr rhanbarthol y DU gan achosi pryder am ddyfodol y ganolfan.
Dywedodd llefarydd ar ran y maes awyr: "Mae'r gostyngiad yn nifer y teithwyr o Faes Awyr Caerdydd o ganlyniad i weithrediadau BMI baby.
"Fodd bynnag, mae gwasanaethau eraill yn parhau yn gryf, ac yn disgwyl gweld twf cymedrol yn 2011 wrth i'r maes awyr barhau gyda'u hymdrechion i ddatblygu gwasanaethau awyr cyflawn."
Mae Caerdydd eisoes yn ymddangos ar restr cyrchfannau cwmni Vueling ar eu gwefan.
Pris y daith gyntaf o Gaerdydd ar Fawrth 27, 2012, yw 29.99 Ewro (£26).
Mae'r cwmni yn defnyddio fflyd o awyrennau Airbus A320 ar draws Ewrop a gogledd Affrica.