Gizzi: Llys Apêl yn lleihau dedfryd

  • Cyhoeddwyd
John GizziFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd John Gizzi ei garcharu am 11 mlynedd ym mis Mawrth eleni

Mae arweinydd gang oedd yn cyflenwi cyffuriau i ogledd Cymru ac a gafodd ei anfon i garchar am 11 mlynedd wedi ennill apêl i leihau ei ddedfryd i 10 mlynedd.

Fis Ionawr eleni cyfaddefodd John Damon Gizzi, 40 oed, o Lansan Siôr ger Abergele, yn Llys y Goron Caernarfon iddo gynllwynio gydag eraill i gyflenwi cyffuriau rhwng mis Awst 2009 a mis Ebrill 2010.

Cafodd ei garcharu am 11 mlynedd ym mis Mawrth ond yn awr mae'r Llys Apêl yn Llundain wedi penderfynu bod ei ddedfryd yn rhy hir ac wedi ei leihau i 10 mlynedd.

Dywedodd yr Arglwydd Ustus Moore-Bick fod y barnwr yn Llys y Goron Caernarfon heb roi ddigon o gredyd i Gizzi am bledio'n euog ac am liniariadau eraill gan gynnwys profedigaeth deuluol ac ymddygiad da yn y carchar.

'Bygythiad i gymuned'

Bu erlyniad Gizzi yn gynnyrch ymchwiliad eang a manwl am dros flwyddyn gan Heddlu Gogledd Cymru.

Roedd yr heddlu'n credu bod Gizzi yn fygythiad i gymuned Y Rhyl a chymunedau eraill yng Ngogledd Cymru.

Yn y Llys Apêl ddydd Llun cafodd dedfryd Gregory Gorst, 31 oed, o Dowyn, Conwy, dyn arall oedd wedi ei garcharu am fod yn rhan o'r un cynllwyn, ei leihau o bum mlynedd a thri mis i bedair blynedd a hanner.

Ond cafodd apêl tri o'r cynllwynwyr eraill - oedd wedi eu carcharu am rwng pedair blynedd a hanner a chwe blynedd ac wyth mis - eu gwrthod gan y barnwr, oedd yn eistedd gyda Mr Ustus Irwin a Mrs Ustus Thirlwall.

Gwrthododd y Llys Apêl wrthwynebiadau cyfreithiol Christian Martin Suckley, 28 o Fae Cinmel; John Etheridge, 31 o Lys Arthur, Towyn; a Michael Peter Bennett, 34, o Ben lan. Towyn

Dywedodd yr Arglwydd Ustus Moore-Bick fod y cynllwyn wedi para o fis Awst 2009 tan fis Ebrill 2010 gan gynnwys troseddwyr o Lerpwl yn cyflenwi cyffuriau i'r gang yng Ngogledd Cymru.

Fe gafodd y gang eu dal gan yr heddlu gyda bron i gilogram o gocên gwerth £162,000 mewn tacsi o Lerpwl i ogledd Cymru.