Absenoldeb staff ambiwlans yn cael effaith ar y gwasanaeth

  • Cyhoeddwyd
AmbiwlansFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Pwysau ariannol ychwanegol i'r gwasanaeth gynnig darpariaeth

Mae'r nifer uchel o weithwyr ambiwlans sydd i ffwrdd o'u gwaith yn sâl yn cael effaith ar allu'r gwasanaeth i ymateb i alwadau brys difrifol.

Dyna farn y gwasanaeth ei hun mewn dogfen sydd wedi dod i law BBC Cymru.

Mae hyn yn gorfodi'r gwasanaeth i wario mwy o arian i geisio cynnal safonau.

Daw'r newyddion ddiwrnod ar ôl i'r gwasanaeth dderbyn newyddion calonogol, eu bod am yr wythfed mis o'r bron yn cyrraedd eu targedau.

Ond mae asesiad risg y gwasanaeth ambiwlans yn dangos eu pryderon am nifer uchel eu gweithwyr sy'n absennol o'u gwaith drwy salwch.

Roedden nhw'n ystyried bod y broblem yn un sy'n debygol iawn o achosi anafiadau difrifol all arwain at anabledd tymor hir.

Yn ôl ystadegau swyddogol, y gwasanaeth ambiwlans sydd â'r cyfraddau salwch uchaf o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Ystadegau

Fe wnaeth y gwasanaeth dderbyn dros 29,000 o alwadau ym mis Medi - gyda bron i 70% o'r achosion oedd "yn fygythiad i fywyd" yn cael eu hateb o fewn y targed o 8 munud.

Y targed i Gymru gyfan yw 65%.

Ond ym mis Mawrth 2011 roedd 7.3% o staff y gwasanaeth yn absennol o ganlyniad i salwch.

Erbyn mis Medi 2011 roedd y ffigwr wedi gostwng i 6.6% ond roedd yn dal yn uwch na'r cyfartaledd o ran y gwasanaeth iechyd yng Nghymru o 5.2%.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth eu bod yn dangos gostyngiad bob blwyddyn o ran yr absenoldeb o ganlyniad i salwch.

"Mae gennym ni gynlluniau i barhau, nid yn unig i reoli'r absenoldebau, ond hefyd i wneud mwy i fynd i'r afael â'r broblem yn y dyfodol.

"Rydym yn adolygu'r sefyllfa yn fisol."

Dywedodd Bleddyn Roberts, ysgrifennydd cangen Undeb Unsain o fewn cangen gogledd Cymru o'r gwasanaeth ambiwlans, mai rhan o'r broblem am absenoldeb o ganlyniad i salwch ymhlith staff oedd pwysau ar y gweithwyr.

"Gall fod yn gorfforol iawn ar adegau....mae 'na dipyn o bwysau yn ymwneud â'r gwaith yma.

"Mae'r pwysau gwaith yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn.

"Mae'n bosib, am ba bynnag reswm, nad ydi'r staff wedi dal i fyny gyda hynny."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol