Ymgyrch tu allan i Gastell Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Ymgyrchwyr y tu allan i Gastell CaerdyddFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd taflenni eu dosbarthu i siopwyr

Fe wnaeth tua 100 o brotestwyr gwrth-gyfalafol sefydlu gwersyll Meddiannu Caerdydd fel rhan o ymgyrch fyd-eang yn erbyn byd bancio.

Roedd cyfarfod o dan gerflun Aneurin Bevan yn Heol y Frenhines cyn croesi'r ffordd a chodi eu pebyll y tu allan i Gastell Caerdydd.

Ond dywedodd yr heddlu bod rhaid iddyn symud am eu bod yn torri is-ddeddfau.

Cafodd taflenni yn galw am fath newydd o economi eu dosbarthu i siopwyr.

'Rhaff achub'

Mae'r daflen yn dweud: "Mae'r gwrthwynebiad hanesyddol hwn yn erbyn annhegwch ein cyfundrefn gymdeithasol yn rhaff achub i ddynoliaeth."

"Rhaid inni droi'r brotest hon yn ganlyniad boddhaol.

"Rhaid newid y gyfundrefn farchnad ariannol i fodel economaidd sy'n dibynnu ar adnoddau lle mae gofynion pawb yn cael eu darparu am ddim."

Eglwys gadeiriol

Mae galwadau ymgyrch Meddiannu Caerdydd wedi bod ar wefannau cymdeithasol ers diwrnodau.

Ers Hydref 15 mae ymgyrchwyr gwrth-gyfalafol wedi bod yn gwersylla y tu allan i Eglwys Gadeiriol Sant Pawl.

Fe gafodd gwersylloedd eu sefydlu yn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig ers mis Medi.