Shaun Edwards yn arwyddo cytundeb pedair blynedd

  • Cyhoeddwyd
Shaun EdwardsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ymunodd Shaun Edwards gyda Chymru yn 2008

Mae Shaun Edwards wedi arwyddo cytundeb pedair blynedd arall fel hyfforddwr amddiffyn Cymru.

Daeth ei gytundeb gwreiddiol i ben ar ddiwedd cystadleuaeth Cwpan Y Byd.

Fe fydd nawr yn cydweithio gyda'r prif hyfforddwr, Warren Gatland, tan o leiaf cystadleuaeth Cwpan y Byd 2015.

Fe fydd hefyd yn rhan o system Academi Cenedlaethol Undeb Rygbi Cymru, gan weithio gyda'r timoedd dan 20, 18 ac 16.

O dan y cytundeb, fe fydd yn cael eu rhyddhau am un diwrnod yr wythnos i weithio gyda thîm o Uwchgynghrair Lloegr, heblaw yn ystod y tymor rhyngwladol.

Dywedodd Roger Lewis, prif weithredwr yr undeb: "Dwi wrth fy modd ein bod wedi cyrraedd cytundeb.

"Mae gennym dîm gwych o hyfforddwyr ac mae rôl Shaun fel hyfforddwr yr amddiffyn yn unigryw".

Dywedodd Edwards yr wythnos ddiwethaf ei fod yn barod i ystyried swydd hyfforddi gyda Lloegr wedi iddo adael clwb Wasps.

Ymunodd Edwards gyda Wasps yn 2001 fel hyfforddwr yr olwyr, ac yna daeth yn olynydd i Warren Gatland fel prif hyfforddwr yn 2005.

Yn ystod ei gyfnod gyda'r clwb, fe enillon nhw Uwchgynghrair Lloegr ar bedwar achlysur, a chodi Cwpan Heineken ddwywaith yn 2004 a 2007.

Daeth Edwards i gytundeb fis diwethaf i adael Wasps wedi deng mlynedd gyda'r clwb er mwyn chwilio am heriau newydd o fewn y gêm.

Er nad yw prif hyfforddwr Lloegr, Martin Johnson, wedi gwneud penderfyniad am ei ddyfodol, roedd y sibrydion yn cysylltu Edwards gyda swydd bosib yno yn cynyddu.

Ond nawr mae cyn chwaraewr rygbi 13 Prydain wedi ymrwymo i dîm cenedlaethol Cymru am bedair blynedd.