Coetiroedd i hybu iechyd
- Cyhoeddwyd
Mae meddygon teulu yng Ngheredigion yn argymell y dylai cleifion ymweld â choetiroedd lleol fel rhan o strategaeth newydd i helpu pobl i fyw'n hirach.
Daw'r arian ar gyfer prosiect Coedydd Aber Actif oddi wrth Comisiwn Coedwigaeth Cymru.
Dywed grwpiau iechyd meddwl fod y coetiroedd yn lleihau straen a chynnig cyfleoedd ymarfer corff.
Rheolir y cynllun gan Goed Lleol, partneriaeth dan ofal y Gymdeithas Coedwigoedd Bach sydd â'r nod o helpu pobl i ofalu am goetiroedd yng Nghymru.
Cerdded yn y coetiroedd
Bydd y sesiynau di-dal yn rhan o raglen 16 wythnos.
Caiff y sesiynau eu teilwra'n ar gyfer pobl ag amrywiaeth o gyflyrau iechyd cronig megis iselder, osteoarthritis, clefyd siwgr a phroblemau gyda'r galon.
Maent yn cynnwys gweithgareddau megis cerdded Nordig, sgiliau gwaith coed gwyrdd, sgiliau byw yn y gwyllt, adnabod planhigion ac anifeiliaid, cynnau tân - neu, yn syml, cerdded yn y coetiroedd a'u mwynhau.
Ardal beilot
Meddai Zena Wilmot, Cydlynydd y Bartneriaeth Coed Lleol, "Rydyn ni i gyd yn gwybod bod ymarfer yn llesol i ni, ond dydy pawb ddim eisiau mynd i'r gampfa i gadw'n heini."
Cynhelir y sesiynau yng nghoetiroedd Llywodraeth Cymru, sef Gogerddan a Bwlch Nant-yr-Arian, yng Nghoed Geufron ger Glan-yr-Afon, Aberystwyth sy'n eiddo i Goed Cadw, ac yng Nghoed Penglais, gwarchodfa natur sy'n eiddo i Gyngor Sir Ceredigion.
Dywedodd Mair Jones o Aberystwyth, sy'n dioddef o ME, "Rydw i wedi cael llawer o les o'r gweithgareddau awyr agored hyn sy'n cael eu cynnal bob wythnos.
"Mae bellach yn rhan o'm trefn wythnosol a dydy hi ddim yn dibynnu ar y tywydd, gan fod cysgodi yn y coed ar ddiwrnod glawog yng nghwmni ffrindiau yn rhan o'r hwyl."
Ceredigion yw un o ddwy ardal beilot yng Nghymru, Treherbert yw'r llall.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd26 Medi 2011