Yr ateb sy'n 'chwa o awyr iach'
- Cyhoeddwyd
Fe allai meddygon yn y Rhondda awgrymu y dylai eu cleifion fynd i goedlannau er mwyn helpu gwella eu hiechyd.
Mae'r fenter newydd, Campfa'r Goedwig a'r Mynydd, yn annog pobl mewn perygl o ddatblygu salwch cronig i gymryd rhan mewn gweithgareddau yng Nghwm Saerbren yn Nhreherbert yn y Rhondda Fawr.
Bydd hyfforddwr personol yn arwain dosbarthiadau bob wythnos mewn coetir sydd wedi ei droi'n "gampfa awyr agored".
Cafodd Coed Actif Cymru ei sefydlu gan Coed Lleol, partneriaeth o sefydliadau, gan gynnwys Comisiwn Coedwigaeth Cymru, sydd am helpu mwy o bobl i fwynhau a gofalu am goetiroedd Cymru.
Rhaglen ehangach
Mae'r gampfa yn rhan o raglen ehangach i annog pobl gyda chyflyrau iechyd cronig nad ydyn nhw fel arfer yn mynd i goedlannau i fynd yno er mwyn eu hiechyd a'u lles yn gyffredinol.
Gwirfoddolwyr Grŵp Amgylcheddol BTCV sefydlodd hyn.
Maen nhw wedi bod yn datblygu mannau ar gyfer y gampfa goedwig, trwsio llwybrau a gwneud gwaith cadwraeth fel clirio coed conwydd.
O dan arweiniad staff Coed Lleol a BTCV, bydd y gwirfoddolwyr yn dysgu gwahanol sgiliau traddodiadol ac yn dysgu sut i gynnal asesiadau risg.
Mae Coed Lleol yn gweithio gyda sefydliadau lleol, fel Cymdeithas Tai Rhondda a Chyngor Rhondda Cynon Taf, i gyfeirio cleientiaid at y grwpiau.
Hefyd mae'r grŵp yn gobeithio gweithio gyda'r Cynllun Cyfeirio Ymarfer Corff Cenedlaethol i dderbyn cleifion wedi'u cyfeirio gan eu meddygon teulu ar y rhaglenni ymarfer er lles eu hiechyd.
'Gwella iechyd'
Dywedodd Mike James o Gomisiwn Coedwigaeth Cymru helpodd sefydlu'r fenter, "Y nod yw cynnig lle cyfeillgar a dymunol i bobl wella eu hiechyd a'u lles yn yr awyr agored gyda help hyfforddwr ac i werthfawrogi eu coetiroedd lleol.
"Rydyn ni'n gobeithio y bydd pobl yn cael eu cyfeirio gan eu meddygon teulu neu sefydliadau iechyd gwirfoddol lleol sy'n taclo problemau megis gordewdra, pwysedd gwaed uchel neu broblemau iechyd meddwl."
Mae BTCV wedi creu mannau ar gyfer dosbarthiadau ffitrwydd ac wedi gosod meinciau a physt i'r grŵp eu defnyddio.
Bydd y rhai fydd yn cymryd rhan yn gallu profi gweithgareddau fel rowlio boncyffion yn lle pwysau a thaflu rhaffau dros ganghennau cyn tynnu'r corff i fyny ac i lawr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd26 Medi 2011
- Cyhoeddwyd26 Medi 2011