Alban annibynnol: Yr effaith ar Gymru

  • Cyhoeddwyd
Carwyn JonesFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Jones fod angen dybryd i Lywodraeth Cymru gael pwerau benthyca

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi awgrymu y dylai'r Cynulliad gael mwy o bwerau pe bai'r Alban yn pleidleisio dros annibyniaeth.

Dywedodd y byddai perthynas Cymru â gweddill y Deyrnas Unedig angen "ei ailystyried yn radical", pe bai'r Albanwyr yn cefnogi annibyniaeth yn dilyn refferendwm.

Yn ystod darlith yn Aberystwyth nos Lun, ychwanegodd Mr Jones y byddai annibyniaeth neu ymreolaeth gyllidol lawn yn gwneud y DU yn lle gwahanol iawn.

Ond dywedodd nad oedd mwy o ddatganoli dim ond er mwyn datganoli yn apelio ato.

'Newid rheolau'r gêm'

Ychwanegodd nad oedd yr opsiwn "datganoli llawn", fyddai'n galluogi'r Alban i reoli ei chyllid ei hun, yn addas i Gymru.

Bydd Llywodraeth Plaid Genedlaethol yr Alban yng Nghaeredin yn cynnal refferendwm ynghylch annibyniaeth i'r Alban tua diwedd cyfnod pum mlynedd y Senedd gyfredol.

Dyfalodd Mr Jones beth fyddai'n digwydd pe bai pleidleiswyr yr Alban yn penderfynu "newid rheolau'r gêm".

"Fe fyddai'r DU fel 'da ni'n ei adnabod yn newid i fod yn rhywbeth gwahanol iawn," meddai.

"Byddai perthynas gyfansoddiadol Cymru y tu fewn i'r DU angen ei ailystyried yn radical.

"Efallai y byddai angen trosglwyddiad tecach o gymhwysedd deddfwriaethol i'r Cynulliad."

Awgrymodd Mr Jones y gallai'r Cynulliad gael ei seilio ar fodel yn debyg i bwerau cyfredol Senedd yr Alban.

Dywedodd gallai'r model hwn gael ei danategu gan awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru.

Pwerau benthyca

Dywedodd y gallai cyfundrefn fwy cyfiawn o gyllid datganoli osod sail i drefniant cyfansoddiadol newydd i Gymru y tu fewn i'r DU.

Ychwanegodd y gallai Comisiwn Silk ar ddyfodol datganoli orfod gwneud argymhellion gwahanol, yn ddibynnol ar ganlyniad y refferendwm yn yr Alban.

Cefnogodd barn Llywodraeth Cymru nad oedd y wlad yn cael digon o gyllid oherwydd system y Trysorlys o ariannu'r gweinyddiaethau datganoledig.

Dywedodd Mr Jones fod angen dybryd i Lywodraeth Cymru gael pwerau benthyca.

"Dydw i ddim yn gofyn am bwerau treth incwm, ond ar y llaw arall, mae gen i feddwl agored ynghylch y ddadl am y ffordd orau i ariannu Cymru yn yr hir dymor," meddai.

"Ta waeth, pobl Cymru ddylai gael y gair olaf ynglŷn â threth incwm."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol