Gillan: 'Angen cymryd cyfrifoldeb'

  • Cyhoeddwyd
Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan ASFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Cheryl Gillan, fe ddylai Llywodraeth Cymru fod yn atebol am yr hyn mae'n wario

Fe ddylai Llywodraeth Cymru gymryd cyfrifoldeb am yr arian sy'n cael ei wario ym Mae Caerdydd, yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru Cheryl Gillan.

Fe ddywedodd Mrs Gillan wrth BBC Cymru nad oedd rheswm i Lywodraeth Cymru fod yn llywodraeth oedd yn gwneud dim ond gwario arian.

Mae Aelodau Seneddol wedi bod wrthi'n trafod gwaith Comisiwn Silk.

Fe fydd y Comisiwn trawsbleidiol yn dechrau ei waith yfory, gan ystyried a ddylai mwy o bwerau, gan gynnwys pwerau trethi, cael eu datganoli.

Yn y gorffennol mae ymchwiliadau wedi awgrymu y dylai Gweinidogion Cymru gael cyfrifoldeb dros rhai trethi, fel y dreth ar hedfan.

Dywedodd Mrs Gillan fod ganddi "feddwl agored" wrth ystyried a ddylid cynnal refferendwm cyn datganoli pwerau trethi.

Dywedodd Mrs Gillan: "Pam ddylai un rhan o'r llywodraeth fod yn ddim on cangen sy'n gwario arian, heb unrhyw gysylltiad, unrhyw gyfrifoldeb dros godi'r arian sy'n cael ei wario?

"Mae hyd yn oed cynghorau lleol yn gorfod codi rhan o'u cyllidebau drwy drethi.

"A ydy ni'n awgrymu fod Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad o radd is na llywodraeth leol? Dwi ddim yn meddwl."

Ychwanegodd: "Fy marn personal yw y dylai 'na fod elfen o atebolrwydd ac yn wir, mae hynny'n digwydd bellach ym mhob rhan arall o'r Deyrnas Unedig."

Ar hyn o bryd dyw Llywodraeth Cymru ddim yn gallu codi trethi, a dim ond arian sy'n dod bob blwyddyn o'r Trysorlys sy' ar gael i'w wario.

Mae'r Comisiwn, dan arweiniad Paul Silk, cyn Glerc y Cynulliad, yn rhan o addewid a wnaed yn y cytundeb Glymblaid rhwng y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Fe fydd y cyfarfod cynta' yng Nghaerdydd yfory.

Cyfrifoldeb

Dywedodd Peter Hain, llefarydd Llafur ar faterion Cymreig, fod peryg i bobl gael eu "swyno" gan y ddadl o blaid datganoli pwerau trethi.

"Dwi'n amheus o'r agenda Ceidwadol y tu ôl i'r Comisiwn," meddai Mr Hain. "Ni ddylaihyn fod yn esgus i lywodraeth adain-dde anwybyddu'u cyfrifoldeb i ardaloedd incwm-is fel Cymru."

Fe fyddai datganoli nifer fawr o drethi i Gymru yn "drychinebus", meddai Mr Hain.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol