Delio â dyfodol bwyd a ffermio
- Cyhoeddwyd
Bydd llond cae o arbenigwyr yn dod ynghyd mewn digwyddiad arloesol i ddelio â dyfodol bwyd a ffermio yn y Deyrnas Unedig ddydd Llun.
Bydd ymchwil newydd yn dangos sut y gall ffermwyr dorri'n sylweddol ar lefelau carbon a sug y gallai prosiect amaethyddol arloesol dorri ar glefyd y galon.
Bydd rhwydwaith dylanwadol o wyddonwyr, ffermwyr, diwydianwyr, llunwyr polisi a manwerthwyr yn casglu i drafod rhai o'r prif bynciau ynglŷn â'r gadwyn gyflenwi bwyd.
Eu nod yw helpu ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd i ddod o hyd i ffordd o fod yn fwy effeithiol a chynaliadwy.
anghenion y presennol
Y digwyddiad hwn, sy'n cael ei drefnu gan y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Ffermio yn y DU (CEUKF) yw'r tro cyntaf i'r fath groestoriad o arbenigwyr drafod beth sydd ei angen i sicrhau mai'r Deyrnas Unedig yw'r lle gorau i gynhyrchu bwyd diogel a maethlon.
Mae CEUKF yn bartneriaeth ym maes y gadwyn gyflenwi, wedi ei sefydlu gan Waitrose, Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth a Sefydliad Cenedlaethol Botaneg Amaethyddol (NIAB TAG).
Bwriad y ganolfan yw darparu ar gyfer anghenion y presennol a'r dyfodol o ran cyflenwad bwyd cynaliadwy yn y Deyrnas Unedig.
Yn ystod 2011, llwyddodd astudiaeth beilot gan CEUKF i fesur ôl troed carbon symlach.
Roedd yr ymchwil yn edrych ar achosion amaethyddol nwyon tŷ gwydr, er enghraifft disel tractor, gwrteithio a chwistrellu, er mwyn mesur ôl troed carbon caeau unigol.
Mae'r canlyniadau cyntaf ar gyfer y caeau yn yr astudiaeth wedi dangos bod lefel y nwyon tŷ gwydr sy'n cael eu cynhyrchu'n lleihau'n ddramatig wrth i lefel cnwd y gwenith gynyddu.
Felly, o ran y caeau hynny, o leiaf, mae cynyddu'r cnwd yn cael effaith fendithiol ar yr ôl troed carbon.
Un o'r prosiectau ymchwil allweddol sy'n cael eu harwain gan IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth yw hwnnw i ddatblygu mathau newydd o blanhigion cnydau sy'n gallu gostwng y peryg o glefyd y galon.
cynhyrchu cnwd
Dyna un o fendithion cemegyn naturiol o'r enw beta glucan sydd i'w gael mewn ceirch, cnwd sy'n gallu ymdopi â'r tir amaethyddol salach a'r hinsawdd wlypach mewn ardaloedd fel gorllewin Cymru.
Gall beta glucan helpu i ddal colesterol a'i atal rhag mynd i'r gwaed.
Mae arbenigwyr yn IBERS wrthi'n bridio mathau newydd o geirch gyda lefelau uwch o beta glucan.
Mae'n hanfodol hefyd fod y mathau newydd yn cynhyrchu cnwd mwy er mwyn cynnal lefelau elw'r ffermwyr.
Y gobaith yw y bydd y mathau newydd o geirch gaeaf a cheirch gwanwyn ar y farchnad i ffermwyr o fewn y blynyddoedd nesaf.
Bydd y cynhadledd yn cael ei gynnal yn Chesford Grange yn Kenilworth, Swydd Gaerwrangon.