Dim lle i faswr profiadol yng ngharfan Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae tri o chwaraewyr rygbi Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd wedi eu gadael allan o'r garfan fydd yn wynebu Awstralia yng Nghaerdydd fis nesaf.
Fe wnaeth Warren Gatland gyhoeddi ei garfan o 28 i wynebu'r Wallabies ar Ragfyr 3 ddydd Sul.
Dyma fydd gêm ryngwladol olaf yr asgellwr Shane Williams a bydd hefyd yn gyfle i gefnogwyr groesawu'r rhai fu yn Seland Newydd yn gynharach eleni.
Ond er bod 'na anafiadau yn rhwytro rhai rhag bod yn y garfan mae'n debyg mai absenoldeb Stephen Jones sydd fwya amlwg.
Mae Jones wedi ennill 104 cap dros Gymru.
Yn hytrach mae Gatland wedi dewis maswr Y Gweilch Dan Biggar ochr yn ochr â Rhys Priestland.
Mae 'na amheuaeth a yw'r chwaraewr 33 oed wedi chwarae am y tro olaf dros Gymru.
Fe wnaeth Jones ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn 1998 a dim ond Neil Jenkins sydd wedi sgorio mwy o bwyntiau dros Gymru.
Anafiadau
Sam Warburton sy'n cadw'r gapteniaeth er bod Matthew Rees yn dychwelyd i'r garfan wedi iddo golli Cwpan y Byd oherwydd anaf.
Does yr un o'r Cymry sy'n chwarae yn Ffrainc, James Hook, Mike Phillips a Lee Byrne, yn y garfan am nad oedden nhw'n cael eu rhyddhau gan eu clybiau.
Mae 'na bryder am anafiade i rai o'r enwau sydd yn y garfan, George North, Adam Jones, Jamie Roberts, Huw Bennett, Luke Chartertis, Dan Lydiate a Leigh Halfpenny.
Mae Ian Evans hefyd yn dychwelyd i'r garfan ryngwladol ac mae 'na dri sydd heb ennill cap dros Gymru wedi eu henwi.
Lewis Evans o'r Dreigiau; Alex Cuthbert o'r Gleision a Liam Williams o'r Scarlets.
"Gan ein bod wedi cadw at y rhan fwyaf oedd gyda ni ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd rydym wedi cadw'r cysondeb drwy enwi Sam fel capten," meddai Gatland.
"Ond mae'n hwb sylweddol i ni gael rhywun o statws a phrofiad Matthew Rees yn ôl yn y garfan.
"Fe fydd gan y cefnogwyr gyfle i ddangos i'r chwaraewyr pa mor falch oedden nhw o'u llwyddiant yng Nghwpan y Byd ac fe ddylai fod yn achlysur arbennig yn Stadiwm y Mileniwm.
"Mae hefyd yn gêm olaf i Shane Williams ond fyddwn ni ddim yn eistedd yn ôl a mwynhau.
"Fe fydd Shane eisiau gorffen ar nodyn uchel.
"Dyma gyfle arall i ni guro tîm o hemisffer y de.....ond bydd hefyd yn rybudd i'n gwrthwynebwyr ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad y flwyddyn nesa'."
Carfan Cymru
Blaenwyr: Scott Andrews, Huw Bennett, Ryan Bevington, Lloyd Burns, Luke Charteris, Bradley Davies, Ian Evans, Lewis Evans, Toby Faletau, Gethin Jenkins, Adam Jones, Ryan Jones, Danny Lydiate, Matthew Rees, Justin Tipuric, Sam Warburton (Capten)
Olwyr: Dan Biggar, Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Leigh Halfpenny, Tavis Knoyle, George North, Rhys Priestland, Jamie Roberts, Liam Williams, Lloyd Williams, Scott Williams, Shane Williams
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2011