'Busnesau bychain yn troi at wystlwyr'

  • Cyhoeddwyd
Arwydd gwystlwyrFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymdeithas Bancio Prydain wedi datgan gall gwystlwyr gynnig benthyciad diogel

Mae arweinwyr busnesau bychain yng Nghymru yn honni nad yw banciau'r stryd fawr yn gwneud digon i helpu cwmnïau ddygymod â'r dirywiad yn yr economi.

Daw'r datganiad yn sgil honiadau fod mwy o fusnesau yn troi at wystlwyr i fenthyca arian ganddynt.

Dywed Cymdeithas Bancio Prydain fod gwystlwyr yn cynnig benthyciadau diogel tra bod hwythau yn gorfod sicrhau eu bod yn benthyca'n gyfrifol.

Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw wedi sefydlu tasglu i ganfod ffyrdd i gefnogi busnesau bychain.

'Cyfnod anodd'

Dywedodd Iestyn Davies ar ran Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru (FBB) fod cwmnïau yn fwy tebygol o fenthyca arian o ffynonellau gwahanol yn hytrach na banciau'r stryd fawr.

"Mae'r hinsawdd economaidd yn anodd iawn ar hyn o bryd, does dim dwywaith amdani," meddai.

"Un o'r ffactorau sy'n cyfrannu at yr amser caled mae busnesau yn dioddef yw'r broblem o allu banciau i fenthyca.

"Wrth gwrs mae'n wir i ddweud fod llawer o fusnesau bychain yn llai tebygol o ddweud wrth y banciau 'allwn ni gael arian neu gyfalaf?' am eu bod yn gwybod ei bod hi'n cyfnod anodd.

"Maen nhw'n fwy tebygol i chwilio am ffynonellau eraill i gael arian."

Mae ffigyrau swyddogol gafodd eu rhyddhau yn gynharach y mis hwn yn dangos fod benthyca i fusnesau bychain a chanolig ym Mhrydain wedi gostwng o £20.5 biliwn i £18.8 biliwn rhwng mis Ebrill a mis Mehefin eleni.

Mwy o wybodaeth

Mae Cymdeithas Bancio Prydain wedi datgan y gall gwystlwyr gynnig benthyciad diogel ond mae'n rhaid i fanciau dderbyn mwy o wybodaeth am fusnesau i sicrhau eu bod yn benthyca'n gyfrifol.

Dywed yr FBB fod angen gwell perthynas rhwng y banciau a busnesau bychain am fod 90% o fusnesau Cymreig yn fusnesau bychain.

Yn ôl un cwmni gwystlwyr, Albemarle a Bond, mae mwy o fusnesau bychain yn dod atyn nhw am help.

Dywedodd Mick McAteer, cyfarwyddwr y felin drafod, Canolfan Gynhwysiant Ariannol, fod pobl yn troi at gwmnïau benthyciadau diwrnod cyflog i gadw'r blaidd o'r drws.

Ychwanegodd Mr McAteer dylai pobl "ystyried bob modd o gael credyd prif ffrwd" yn gyntaf gan fod ad-daliadau i wystlwyr a chwmnïau benthyciadau diwrnod cyflog yn costio mwy.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol