£2.4 miliwn i naw prosiect

  • Cyhoeddwyd
Gwaith copr yr Hafod heddiwFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Gwaith copr yr Hafod heddiw

Bydd naw prosiect treftadaeth ar draws Cymru yn elwa ar gyllid o £2.4 miliwn, gan gynnwys safle lle mae adeiladau cofrestredig Gradd II sy'n dyddio nôl hyd at 200 mlynedd i gyfnod hanesyddol pwysig gwaith copr Abertawe.

Mae'r cyllid yn dod o Brosiect Twristiaeth Treftadaeth £19 miliwn Llywodraeth Cymru sy'n cael ei gefnogi gan £8.5 miliwn o gyllid Ewropeaidd.

Nod y prosiect yw sicrhau'r gwerth gorau posibl i dreftadaeth drwy gynyddu nifer, hyd a gwerth yr ymweliadau â Chymru, gan gysylltu themâu treftadaeth Cymru yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol.

Bydd y cyllid yn cefnogi'r prosiectau canlynol:

  • £521,000 tuag at brosiect Prifysgol Abertawe yng ngweithfeydd copr yr Hafod a Morfa i wneud y safle'n hygyrch ac egluro arwyddocâd hanesyddol y safle;

  • £1.001 miliwn tuag at brosiect a arweinir gan Gynghorau Gwynedd a Chonwy i gefnogi nifer o gynlluniau cydweithredol, yn ymdrin â threftadaeth ddiwylliannol, yn enwedig y diwydiant chwarela, y cyfnod cynhanes a phererinion;

  • £171,000 tuag at brosiect Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i wella safle Castell Henllys gan gynnwys ei ddatblygu'n ganolfan ranbarthol ar gyfer cyflwyno hanes Cymru yn y dyddiau cynnar a'r cyfnod cynhanes;

  • £152,000 i Ymddiriedolaeth Rheilffordd Ffestiniog i ganiatáu mynediad rheolaidd i'r cyhoedd i weithdai peirianyddol a cherbydau Rheilffordd Ffestiniog am y tro cyntaf a darparu gwybodaeth am y safle a'r ardal leol;

  • £168,000 tuag at brosiect a arweinir gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i wella'r dreftadaeth Rufeinig yn Sir Gaerfyrddin a'i chysylltu â hanes y Rhufeiniaid yn gyffredinol;

  • £107,000 i Treftadaeth Llandre i greu llwybr darganfod eglwysi a chapeli unigryw a diddorol yng Ngheredigion;

  • £101,000 i PLANED yn Sir Benfro i helpu i hybu hanes Amddiffyn y Deyrnas yn Sir Benfro a datblygu dau becyn digwyddiadau;

  • £78,750 i Gyngor Sir Ddinbych i wella'r cysylltiadau rhwng tref a chastell Dinbych a darparu mwy o wybodaeth yng nghanol y dref;

  • £78,500 i Gyngor Sir Ddinbych i wella mynediad i ran camlas Llangollen o draphont ddŵr Pontcysyllte a'r Gamlas sy'n safle Treftadaeth y Byd a darparu gwybodaeth well amdanynt.

Dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth: "Mae twristiaeth yn gwneud cyfraniad hynod bwysig at economi Cymru. A chofiwch, mai amgylchedd hanesyddol trawiadol ac amrywiol Cymru yw un o'r pethau sy'n denu ymwelwyr i'r wlad.

"Rwy'n falch ein bod wedi gallu cynnig y cyllid sylweddol hwn i'r naw prosiect hyn ar draws Cymru.

"Bydd hyn yn ein galluogi i ddatblygu cyfleusterau i hybu hanes Cymru a gwella dealltwriaeth ymwelwyr a thrigolion o'n hanes a'n diwylliant dros y blynyddoedd."