Cyfarfod i wella a chryfhau economi'r gogledd

  • Cyhoeddwyd
ArianFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen gwell rheolaeth a chydweithio i gryfhau economi'r gogledd

Gwella datblygiad economi'r gogledd yw bwriad cyfarfod a fydd yn ceisio sefydlu un corff i gynrychioli holl awdurdodau'r rhanbarth yn y maes.

Yn Llandudno ddydd Mawrth bydd cynrychiolwyr yr awdurdodau lleol, asiantaethau a busnesau yn cyfarfod.

Y gobaith yw y bydd y chwe awdurdod yn cydweithio'n well i ddenu buddsoddiad a chryfhau economi'r gogledd.

Ers i Awdurdod Datblygu Cymru ddod i ben, mae'r gwaith o ddenu a chefnogi busnesau wedi ei wneud gan nifer o wahanol gyrff.

"I ni, roedd y WDA yn gwneud job dda i fusnes, i ddatblygu busnes a dod a busnes i mewn i Gymru," meddai Gwyn Evans, Cadeirydd Ffederasiwn Busnesau Bach y Gogledd a Chaer.

"Roedden ni'n ail ar y rhestr o ran denu busnesau i Gymru, rŵan rydan ni ar waelod y rhestr o ran gwledydd Ewrop.

"Yn bendant, rydym yn colli allan.

"Roedd y WDA yn deall yr economi, be oedden ni isio yng Nghymru, wrth gael ei wared mae wedi gwneud drwg i Gymru."

'Bwlch'

Nod y cyfarfod yw dod a'r gwaith i gyd o dan un ymbarél er mwyn ymateb i'r problemau economaidd sy'n wynebu'r rhanbarth.

Mae 'na deimlad nad yw'r gogledd yn manteisio yn llawn ar gyfleodd posib am fod yr awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill yn gweithio yn lleol ac o ganlyniad bod y gogledd ar ei hôl hi yn y maes.

"Dwi'n meddwl bod 'na fwlch wedi datblygu o ran perfformiad economaidd gogledd Cymru gyda gweddill rhanbarthau Cymru," meddai Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Strategol Cyngor Gwynedd.

"Rydym yn gweld hyn o ran ffigyrau sy'n ymwneud â chyfoeth a ffigyrau diweithdra tymor hir ymhlith y bobl ifanc.

"Mae gwir angen i gyrff gydweithio, i gyd-gynllunio, dod at ei gilydd i edrych ar ffordd o wneud gwell defnydd o'r adnoddau presennol er mwyn cefnogi busnesau a chefnogi ein pobl ifanc er mwyn iddyn nhw gael mynediad i'r cyfleoedd o fewn y farchnad."

Gyda chwe awdurdod lleol yn y gogledd mae 'na chwe adran datblygu'r economi yn ogystal ag adran Llywodraeth y Cynulliad sy'n ymwneud a'r maes.

Mae 'na hefyd gyrff addysg bellach, addysg uwch, canolfannau byd gwaith a Gyrfa Cymru sydd hefyd yn ymwneud â'r maes, heb son am asiantaethau yn y trydydd sector.

"Mae'n ddarlun blêr iawn mewn ffordd o ran y modd y mae gwasanaethau yn ymwneud â'r maes," ychwanegodd Mr Jones.

"Y nod yw ceisio gosod cyfeiriad cliriach, dod â chyrff at ei gilydd fel bod 'na agenda strategol clir yn ei lle ar gyfer y gogledd."

Mantais

Mae 'na 400 o swyddi ar hyn o bryd yn adrannau datblygu economi'r gogledd ond ychydig iawn sy'n gweithio i ddenu busnesau newydd.

Mae'r mwyafrif yn gweithio ym maes datblygu cymunedol.

Ond mae rhai yn pryderu, drwy sefydlu un bwrdd y bydd rhai ardaloedd yn manteisio ar draul ardaloedd eraill.

"Wrth gwrs mae 'na wahaniaeth sylweddol o ran cyfleodd yn y gogledd ddwyrain o'i gymharu â'r gogledd orllewin, ac fe fydd rhaid i hyn gael ei gydnabod mewn unrhyw fodel fydd yn cael ei ddatblygu ar gyfer maes datblygu economi yn y gogledd," ychwanegodd Mr Jones.

"Yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn chwarae i gryfderau'r ardaloedd, yn enwedig y gogledd orllewin lle mae 'na gyfleoedd ond mae angen bod yn glir sut i fanteisio ar y cyfleoedd yna a bod yr holl gyrff yn y maes yma'n cadw at y blaenoriaethau ac yn cydweithio er mwyn cyflawni newid go iawn i berfformiad yr economi."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol