Trafod codi morglawdd ar draws Môr Hafren
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Prydain wedi cadarnhau eu bod nhw'n cynnal trafodaethau gyda chwmni ynglŷn â'r posibilrwydd o godi morglawdd ar draws Môr Hafren.
Mae'r Adran Ynni a Newid Hinsawdd yn Llundain wedi dweud nad oes cyfiawnhad i ddefnyddio arian cyhoeddus ar gynllun i greu trydan trwy osod tyrbinau yn y môr.
Ond maen nhw wedi disgrifio'r cynllun - sydd wedi'i ariannu gydag arian preifat - fel un "diddorol".
Mae'r trafodaethau yn cael eu cynnal rhwng yr adran a chwmni Corlan Hafren.
Mae'r cwmni wedi ei sefydlu i arwain y datblygiad rhwng Trwyn Larnog ym Mro Morgannwg a Phwynt Brean yng Ngwlad yr Haf.
"Fe ddaeth yr arolwg dichonolrwydd dwy flynedd i'r casgliad nad yw'r Llywodraeth yn gweld achos strategol ar hyn o bryd ar gyfer buddsoddiad cyhoeddus i gynllun morglawdd Môr Hafren a fyddai'n costio hyd at £34 biliwn," meddai llefarydd ar ran y llywodraeth.
"Er hynny, dydi'r arolwg ddim yn atal cynlluniau sydd wedi eu hariannu yn breifat i gael eu cyflwyno.
"Rydym mewn trafodaethau gyda'r sector preifat am gynlluniau i ddatblygu cynllun pŵer llanw yno (er enghraifft Corlan Hafren - consortiwm sy'n cynnwys Halcrow ac Ove Arup).
Effaith amgylcheddol
"Fe fyddai cynllun sector preifat yn gymwys ar gyfer cefnogaeth drwy Rwymedigaeth Adnewyddadwy neu Gytundeb Gwahaniaeth fel rhan o raglen Diwygio'r Farchnad Drydan y llywodraeth.
"Yn ychwanegol i gost cyfalaf a chost ynni, fe fydd rhaid i unrhyw gynlluniau ynni ystyried effaith amgylcheddol er enghraifft ar bysgod, adar a llifogydd, yn ogystal â'r effaith ar fordwyaeth a defnyddwyr môr eraill."
Fe wnaeth y llefarydd gadarnhau eu bod nhw fel adran ac adrannau eraill o'r llywodraeth wedi derbyn achos busnes drafft cyntaf am forglawdd rhwng Caerdydd a Weston-super-Mare.
"Mae hwn yn gynnig diddorol yn enwedig os gall gyfrannu tuag at dargedau ynni adnewyddol 2020.
"Rydym yn trafod gyda'r consortiwm (Corlan Hafren) ar y camau nesaf i'r prosiect fel y gall gael ei ystyried yn llawn gan y Llywodraeth ac asesu'r elw yn nhermau economaidd ac ynni adnewyddol o ran cyfiawnhau costau'r a'r cymhorthdal ochr yn ochr â'r sgil effeithiau amgylcheddol i Fôr Hafren."