Protest peilonau yn cyrraedd Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad yn cael ei gyflwyno i wleidyddion ym Mae Caerdydd yn nodi pryderon am gynlluniau i godi melinau gwynt a pheilonau trydan.
Cyrhaeddodd saith cerbyd gyriant pedair olwyn aelodau Montgomeryshire Against Pylon Fae Caerdydd brynhawn Iau.
Mae ymgyrchwyr yn cyflwyno i Aelodau Cynulliad adroddiad sy'n dangos yn eu barn nhw effaith adeiladu tyrbinau gwynt a pheilonau trydan ar y sir.
Yn y cyfamser, dywedodd Gweinidog Ynni Llywodraeth San Steffan, Charles Hendry, wrth BBC Cymru y byddai o bosib angen ffermydd gwynt ac isadeiledd ynni estynedig er lles Prydain.
Difetha
Tra bod y Grid Cenedlaethol wedi dweud bod rhaid datblygu'r ddarpariaeth ynni gwyrdd, mae rhai wedi honni y byddai eu gosod yn y canolbarth yn difetha harddwch naturiol yr ardal.
Mae'r grid yn bwriadu codi hyd at 120 o beilonau 50 metr o uchder i gario gwifrau trydan 400,000 folt o Gymru i gyffiniau'r Amwythig yn Lloegr.
Gan fod llawer mwy o felinau gwynt yn cael eu cynllunio ac wedi cael caniatâd yn barod, mi fydd angen ceblau mwy pwerus ac is-orsaf drydan i ymdopi â'r ynni adnewyddol fydd ar gael.
Dywedodd y grid y byddai angen lleoli is-orsaf ar safle 20 erw nail ai ger Aber-miwl, Y Drenewydd, neu yn ardal fwy gwledig Cefn Coch.
£178m
Os daw'r peilonau, tri ymhob cilomedr, fe allen nhw gael eu gosod yn Nyffryn Hafren i gyfeiriad Y Trallwng neu yn Nyffryn Efyrnwy a phentref Meifod ar safle sy'n cael ei ystyried ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2015.
Mae'n debyg mai £178 miliwn fydd y gost os bydd strategaeth y grid yn cael ei gwireddu - a £562 miliwn petai'r gwifrau trydan yn cael eu claddu dan ddaear.
Targed llywodraeth Prydain yw darparu 15% o ynni o ddulliau adnewyddol erbyn 2020.