Promenâd newydd i bentref Pentywyn
- Cyhoeddwyd
Bydd cynllun gwerth £500,000 i adfer glan y môr pentref yn Sir Gâr yn dechrau yn y flwyddyn newydd.
Bydd promenâd newydd yn cael ei adeiladu ym Mhentywyn ac fe fydd y cynllun yn cynnwys gwaith tirwedd.
Mae'r pentref yn enwog am fod yn lleoliad i ymgeision i dorri record cyflymdra ar dir y byd.
Mae ei draeth saith milltir o hyd wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer nifer o ymgeision sydd wedi'u cofnodi yn Amgueddfa Cyflymder y pentref.
Ymwelwyr
Mae Cyngor Sir Gâr yn gobeithio y bydd y cynllun yn denu mwy o ymwelwyr i Bentywyn.
Bydd y promenâd newydd yn agos i Lwybr Arfordir Cymru fydd yn agor yn 2012.
Yn ogystal fe fydd sgwâr newydd ar gyfer y cyhoedd yn cael ei adeiladu yn agos i lan y môr.
Fe fydd cynlluniau'r prosiect yn cael eu harddangos yn amgueddfa'r pentref ym mis Ionawr.
Dywed y cyngor eu bod yn bwriadu gwneud y gwaith yn ystod misoedd y gaeaf rhag iddynt ymyrryd ar ddiwydiant ymwelwyr Pentywyn.
Dywedodd Clive Scourfield, aelod bwrdd gweithredol Sir Gâr sy'n gyfrifol am adfywiad: "Bwriad cynlluniau'r promenâd yw cynnig canolfan ddeniadol ar gyfer ymwelwyr.
"Mae gan Bentywyn y potensial i fod yn gyrchfan o'r safon uchaf, a'n bwriad yw cyd-weithio â'r gymuned leol i wireddu'r bwriad hwn."
Babs
Rhwng 1924 a 1927 torrwyd record cyflymdra ar dir y byd bum gwaith ym Mhentywyn gan Malcolm Campbell a'r Cymro J. G. Parry-Thomas.
Lladdwyd Mr Parry-Thomas yno yn 1927 wrth geisio torri'r record eto yn ei gar Babs.
Claddwyd Babs yn y tywod ar ôl y ddamwain, ac wedi iddo gael ei adfer mae yn awr i'w weld yn yr amgueddfa yn y pentref.
Yn 2010 torrodd Don Wales - ŵyr i Malcolm Campbell - record cyflymdra'r byd ar gyfer peiriant torri gwair ar y traeth.