Chwilio am geidwaid i'r camlesi
- Cyhoeddwyd
Mae ymddiriedolaeth yn chwilio am wirfoddolwyr i gadw llygad ar lociau camlesi Cymru.
Mae yna dros 116 cilometr (72 o filltiroedd) o gamlesi yng Nghymru ac mae angen gwirfoddolwyr i roi cymorth i'r miloedd o ymwelwyr sy'n eu defnyddio bob blwyddyn.
Cafodd arbrawf llwyddiannus ei gynnal drwy ddefnyddio gwirfoddolwyr ar hyd camlas Swydd Amwythig.
Dywed yr ymddiriedolaeth mai'r cam nesa yw dod o hyd i geidwaid ar gyfer loc byd-enwog pont ddŵr Pontcysyllte ar gamlas Llangollen ac ar gyfer lociau Llangynidr, camlas Sir Fynwy a Brycheiniog.
"Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog yw'r un mwyaf prydferth ym Mhrydain, ac felly mae o'n un poblogaidd iawn," meddai Nick Worthington, o Ddyfrffyrdd Prydain.
Bydd Dyfrffyrdd Prydain yn trosglwyddo cyfrifoldeb am y camlesydd i ymddiriedolaeth Glandŵr Cymru yn Ebrill eleni.
"Bydd y gwirfoddolwyr hefyd yn helpu gyda'r gwaith pwysig o ddiogelu'r dŵr yn y gamlas, yn enwedig mewn cyfnod o haf poeth pan mae'r dŵr yn gallu mynd yn isel iawn."
Dywedodd y gall pobl wirfoddoli am hanner diwrnod neu fwy bob wythnos, heb yr angen am brofiad o waith ar y camlesydd.
"Mae'r ymddiriedolaeth newydd yn bwriadu gweithio'n llawer agosach gyda'r cymunedau lleol," meddai Mr Worthington.