Cwmni am fynd i ddwylo'r gweinyddwyr
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni dillad Peacocks wedi dweud eu bod am fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Dywedodd y cwmni fod trafodaethau'n parhau â buddsoddwyr posib wrth geisio ailstwythuro benthyciadau o tua £240 miliwn.
"Ers tro," meddai llefarydd, "mae'r bwrdd a'i ymgynghorwyr wedi trafod ailstrwythuro â'r benthycwyr.
"Yn anffodus, mae'r trafodaethau wedi dod i ben heb gytuno."
Gan nad oedd gweinyddwyr wedi eu hapwyntio, meddai, doedd y rheolwyr ddim wedi newid.
Mae'r cwmni'n cyflogi mwy na 400 yn ei bencadlys yng Nghaerdydd ac mae Kevin Brennan, AS Gorllewin Caerdydd, wedi galw ar Lywodraeth San Steffan i ymyrryd.
'Ergyd fawr'
"Gallai hon fod yn ergyd fawr i bobol Caerdydd a de Cymru," meddai, "a byddai'n niweidio economi Cymru'n fawr iawn.
"Dwi'n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i wneud popeth posib, nid yn unig i annog mwy o drafodaethau rhwng y cwmni a'u banciau a'u benthycwyr ond hefyd helpu'r cwmni i ddiogellu swyddi."
Eisoes mae ymgynghorwyr annibynnol KPMG wedi adolygu llyfrau'r cwmni â 550 o siopau ym Mhrydain.
Yng Nghaerdydd mae pencadlys Peacocks ers 72 o flynyddoedd ond yn Sir Gaer y ffurfiodd Albert Peacock y cwmni yn 1884.
Cyhoeddodd y cwmni fod 17% yn fwy o werthiant dros y Nadolig.