Plaid: Cefnogaeth i ymgeiswyr

  • Cyhoeddwyd
Leanne Wood and Elin JonesFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae Leanne Wood ac Elin Jones wedi cael cefnogaeth i'w hymgais i fod yn arweinydd

Mae cyn Aelod Seneddol Plaid Cymru, Adam Price, wedi dweud ei fod yn cefnogi Leanne Wood sy'n anelu at fod yn arweinydd nesaf y blaid.

Nid oedd Mr Price wedi sefyll yn etholiad cyffredinol 2010 yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr lle oedd yn AS ers 2001.

Mae AS Arfon, Hywel Williams, wedi cyhoeddi ei fod yn cefnogi Elin Jones yn y ras am yr arweinyddiaeth wrth ddweud ei bod yn "wleidydd deallus a heriol".

Y ddau arall sy'n sefyll yw'r Arglwydd Elis Thomas ac Aelod Cynulliad Gorllewin De Cymru, Simon Thomas.

Dywedodd Mr Price ei fod yn nabod Ms Wood ers dros 20 mlynedd a rhoddodd deyrnged i'w "hymroddiad a chysondeb" o ran ei gweledigaeth bellgyrhaeddol.

"Rwy wedi ei gweld yn datblygu fel gwleidydd ac yn gallu adeiladu pontydd - dyna sydd ei angen ar y blaid os ydyn ni am godi momentwm.

"Rydyn ni'n galw ein hunain yn blaid i Gymru. Os taw dyna yr ydyn ni am fod, rhaid siarad gyda llais sy'n atseinio ar draws Cymru ac fe all Leanne wneud hynny."

Mae Ms Wood hefyd wedi derbyn cefnogaeth yr Aelodau Cynulliad Bethan Jenkins a Lindsay Whittle ac olynydd Mr Price fel AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards.

Pleidlais amgen

Ymhlith cefnogwyr eraill Ms Jones mae cyn Brif Weithredwr Plaid Cymru, Dafydd Trystan, y cyn-ACau, Dai Lloyd a Nerys Evans, a'r ACau presennol, Llŷr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru) a Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru).

Bydd yr enillydd - a fydd yn cael ei ddewis â'r sustem bleidlais amgen - yn cael ei enwi ym mis Mawrth.

Cyhoeddodd Ieuan Wyn Jones - a fu'n arwain y blaid ers 200 - ei fwriad i ildio'r awenau wedi canlyniadau siomedig y blaid yn Etholiad y Cynulliad ym mis Mai y llynedd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol