Cyhuddo dyn o lofruddiaeth a threisio gwraig yn Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
Irene LawlessFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Irene Lawless yn byw ar ei phen ei hun yn Llanllwni

Mae dyn yn y ddalfa ar ôl bod yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio a threisio gwraig 67 oed yn Sir Gaerfyrddin.

Cafwyd hyd i Irene Lawless yn ei chartref yn Llanllwni ddydd Llun, Ionawr 23.

Roedd Darren Martin Jackson, 26 oed o Lanllwni ond yn wreiddiol o Gaint, gerbron Llys Ynadon Llanelli fore Gwener a bydd yn Llys y Goron Abertawe ar Chwefror 7.

Cafodd ei arestio yng Nghaint ddydd Mawrth.

Ychwanegodd y Ditectif Uwcharolygydd Pam Kelly ei bod am ddiolch i'r gymuned fach leol am eu hamynedd a chefnogaeth yn ystod yr ymchwiliad.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol