Beirniadu cyngor am fethu cynnig gofal

  • Cyhoeddwyd
Logo Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus CymruFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adroddiad yn feirniadol o'r cyngor sir

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi adroddiad beirniadol wedi cwyn am wasanaethau un o gynghorau Cymru.

Roedd yr Ombwdsmon wedi derbyn cwyn gan fab i un o denantiaid Cyngor Wrecsam am fethiannau atgyweirio i'r tŷ yn ogystal â methu ateb ei anghenion.

Disgrifiad,

Cyngor Wrecsam wedi cael ei feirniadu am fethu a delio â chais gŵr sydd ag anabledd am dŷ addas.

Yn ôl yr adroddiad a gyhoeddwyd ddydd Mercher, roedd "methiannau systemig" yn y modd y gwnaeth y cyngor ddelio gyda chais Mr S am dŷ ei hun, ac i addasu tŷ ei fam.

Mewn ymateb i'r adroddiad dywedodd y cyngor eu bod yn derbyn yr adroddiad ac am gydymffurfio gyda'r argymhellion.

Mae Mr S yn ddyn sengl anabl sy'n ddefnyddiwr cadair olwyn cyson ac yn byw gyda'i fam, Mrs G, sy'n un o denantiaid y cyngor.

Oherwydd ei anabledd mae o fel arfer yn gorfod aros mewn un ystafell yn y tŷ.

Cais am dŷ

Dywedodd yr adroddiad fod Mr S yn honni bod cyflwr yr ystafell wely yn warthus a'i fod o wedi gwneud cwyn am y cyflwr.

Ond roedd yn anfodlon nad oedd y gwaith wedi ei wneud ac nad oedd y tŷ wedi ei addasu ar gyfer ei anghenion.

Dywedodd hefyd wrth yr Ombwdsmon ei fod wedi gwneud cais "ers dros 10 mlynedd" am gartref addas.

Yn ôl cofnodion y cyngor roedd y cais cyntaf ym mis Gorffennaf 2007.

Mae Mr S wedi cael cynnig sawl cartref ond eu bod yn anaddas i'w anghenion.

Mae o'n credu bod y cyngor wedi "methu cyflawni eu cyfrifoldebau statudol" am nad oedd ganddyn nhw restr dai gwahanol ar gyfer pobl anabl.

Fe ddaeth yr ymchwiliad i'r casgliad bod y cyngor wedi methu dilyn deddfwriaeth, canllawiau statudol a pholisïau'r cyngor ar fwy nag un achlysur.

Dywedodd yr Ombwdsmon hefyd fod "cadw cofnodion gwael wedi cymhlethu'r methiannau".

Daeth i'r casgliad y dylai'r cyngor "ymddiheuro i Mr S....talu iawndal o £1,500 ac ailasesu ei gais am dŷ a'i statws digartref".

"Dwi hefyd yn argymell y dylai'r cyngor hyfforddi eu holl staff yn yr adran dai ar ddigartrefedd ac adnabod pryd y dylai ymholiadau gael eu cynnal.

"Fe ddylai'r cyngor hefyd ymddiheuro i Mrs G am yr oedi mewn gwneud gwaith atgyweirio yn ei chartref..."

Mae'r Ombwdsmon hefyd am i'r cyngor:

  • adolygu'r canllawiau o fewn yr adran dai er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu'r ddeddfwriaeth a chanllawiau statudol.

  • adolygu'r system er mwyn sicrhau bod ceisiadau gan bobl anabl yn cael eu trin yn effeithiol ac yn cael eiddo addas.

  • adolygu'r modd mae'r cyngor yn cadw cofnodion a'i fod yn cyd-fynd gyda'r Ddeddf Gwarchod Data.

  • adolygu mecanwaith cyfathrebu a rhannu gwybodaeth yr adran.

Dywedodd Andy Lewis, Pennaeth Tai a Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Wrecsam, y byddan nhw yn cydymffurfio â'r argymhellion yn yr adroddiad.

"Byddwn yn ymddiheuro i'r dyn a'i fam," meddai.

"Rydym hefyd yn adolygu ein systemau a'n canllawiau i sicrhau na fydd sefyllfa debyg yn digwydd yn y dyfodol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol