Prifysgol Aberystwyth yn creu 27 o swyddi newydd

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol AberystwythFfynhonnell y llun, BBC news online
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd amryw o adrannau yn elwa o'r swyddi newydd

Fe fydd Prifysgol Aberystwyth yn creu 27 o swyddi academaidd newydd.

Fe fydd y swyddi newydd ar lefel Darlithydd, Uwch Ddarlithydd, Darllenydd ac Athro.

Yn ôl y Brifysgol, mae'r cyhoeddiad yn cynrychioli "buddsoddiad sylweddol ac ymrwymiad cadarn i ddatblygiad pellach o adrannau academaidd a phrofiad myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth".

Fe fydd y swyddi mewn amrywiol adrannau gan gynnwys yr adran ddaearyddiaeth, gwleidyddiaeth ryngwladol, hanes Cymru a gwyddoniaeth gyfrifiadurol.

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, mai dyma "un o'r ymgyrchoedd recriwtio staff newydd mwyaf uchelgeisiol a gynhaliwyd gan Brifysgol Aberystwyth erioed".

"Ein blaenoriaeth yw ehangu a gwella ein henw da yn rhyngwladol, bod ar flaen y gad mewn amrywiaeth o adrannau a chyd-weithio i roi'r cyfle gorau posib yn fyd-eang i ddysgu ac addysgu."

Bydd swyddi hefyd mewn astudiaethau ffilm a theatr, seicoleg, rheoli a busnes, chwaraeon a gwyddorau ymarfer, Saesneg ac ysgrifennu creadigol a'r gyfraith a throseddeg.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol