Ombwdsmon yn cytuno â chwyn am ymchwiliad iechyd
- Cyhoeddwyd
Mae Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno â chwyn menyw yn erbyn Cyngor Caerdydd yn dilyn triniaeth 'annerbyniol' a dderbyniodd ei gŵr yn nwylo'r gwasanaethau cymdeithasol.
Codwyd yr achos gan staff ysbyty oherwydd eu pryderon ynglŷn â'r ffordd y caniatawyd i'r dyn (Mr L) ddatblygu'r radd fwyaf difrifol o friwiau gorwedd.
Roedd 'na nifer o argymhellion gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, Peter Tyndall, gan gynnwys gofyn i'r cyngor gynnal ymchwiliad i achosion ble mae staff y gwasanaeth iechyd wedi'u cyhuddo o gam-drin neu esgeuluso.
Roedd y gwyn yn ymwneud â diffygion tîm Amddiffyn Oedolion sy'n Agored i Niwed (POVA) y cyngor wrth iddynt ddelio â phryderon Mrs L ynglŷn â thriniaeth ei gŵr.
Yn 2008/9, roedd Mr L yn 80 oed, yn dioddef o MS ac yn gaeth i'w wely.
Roedd dan ofal ei wraig, gofalwyr proffesiynol a nyrsys ardal. Ond pan ddechreuodd ddioddef o friwiau gorwedd, gadawyd iddynt waethygu i lefel ddifrifol cyn iddo fynd i'r ysbyty.
Daeth POVA at ei gilydd i drafod y sefyllfa, ond bu farw Mr L ychydig wythnosau ar ôl mynd i'r ysbyty.
Er nad oedd Mrs L am wneud cwyn uniongyrchol yn erbyn y gofalwyr iechyd oedd wedi trin ei gŵr, roedd hi am i'r cyngor wrando ar ei chwyn ynglŷn â'r ffaith nad oedd rheolwyr POVA wedi ymchwilio i bryderon staff yr ysbyty.
Roedd hi hefyd yn anhapus gyda'r diffyg ymchwil i anghysonderau yn y dystiolaeth a roddwyd gan nyrsys ardal mewn cyfarfodydd POVA i drafod gofal Mr L, cyn ac ar ôl ei farwolaeth.
Iawndal
Yn ôl yr Ombwdsmon, roedd 'na gyfiawnhad i'r gŵyn, a daeth i'r casgliad na fu i'r cyfarfodydd POVA ystyried yr achos a gyfeiriwyd yn ddigonol.
Cefnogodd gwyn arall Mrs L ynglŷn ag ymateb y cyngor i'w phryderon - nad oedd yn ddigon prydlon na sylweddol.
Argymhellodd y dylai'r cyngor dalu iawndal i Mrs L i gydnabod yr amser a gollwyd a'r drafferth a gafodd wrth wneud ei chwyn.
Roedd Mr Tyndall hefyd yn argymell gofyn i'r cyngor sicrhau nad oes unrhyw ddefnyddwyr gwasanaeth eraill mewn perygl ac y dylid cynnal ymchwiliad i achosion ble mae staff y GIG yn cael eu cyhuddo o gam-drin neu esgeuluso, i sicrhau bod 'na ymateb priodol i'r rhain.
Dylid ailystyried yr ymchwiliad gwreiddiol hefyd, yn ôl Mr Tyndall, er mwyn cywiro'r cofnod a sicrhau bod gwersi wedi'u dysgu.