Meddyg blaenllaw yn wfftio galwadau am 'tsar bwyd'
- Cyhoeddwyd
Mae un o feddygon mwya' blaenllaw Cymru wedi wfftio galwadau am "tsar bwyd" ond mae'n dweud bod posibilrwydd y bydd angen arian ychwanegol i dalu am fwy o driniaethau gordewdra.
Yn ôl y Prif Swyddog Meddygol, Dr Tony Jewell, mae 'na adolygiad yn cael ei gynnal o lawdriniaethau o'r fath yng Nghymru.
Bu'n siarad â rhaglen Week In Week Out BBC Cymru, oedd yn dilyn dyn yn pwyso 50 stôn, a dalodd am lawdriniaeth yn India.
Dywedodd Dr Jewell bod 'na dystiolaeth bod triniaethau o'r fath yn gallu arbed arian os oedden nhw'n atal pobl rhag datblygu cyflyrau fel clefyd siwgr.
Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar stori Zach Smith, 38 oed, o'r Rhws ym Mro Morgannwg, oedd wedi benthyg cynilion ei fam i dalu am lawdriniaeth yn India.
Ers hynny, mae Mr Smith wedi colli 20 stôn.
Doedd o ddim yn gallu cael llawdriniaeth colli pwysau ar y gwasanaeth iechyd am fod 'na gyfyngiad ar nifer y triniaethau o'r fath yng Nghymru.
'Tsar bwyd'
Dywedodd arbenigwr ar golli pwysau, yr Athro John Baxter, fod astudiaethau o gleifion oedd wedi cael llawdriniaeth gordewdra yn dangos eu bod yn rhoi pwysau'n ôl ymlaen yn raddol dros amser, felly bod parhau gyda'r gefnogaeth ddietegol yn hanfodol.
"Rydym bron angen tsar bwyd," meddai, "rydym angen rhywun i ddweud wrthym ni be ddylen ni fod yn rhoi yn ein cegau."
Ond mae Dr Jewell yn anghytuno gyda'r syniad o "tsar bwyd" gan fod 'na strategaeth gynhwysfawr eisoes yn bodoli i daclo gordewdra.
Ychwanegodd: "Os ydym angen dod o hyd i'r adnoddau i gynnal [rhagor o lawdriniaethau colli pwysau] bydd yn rhaid gweld o le fydd yr arian yn dod am ein bod mewn sefyllfa ariannol dynn iawn.
Dywedodd y byddai'n fater o ofyn "beth ydyn ni'n mynd i'w atal" er mwyn talu amdano.
Roedd llawdriniaeth Mr Smith wedi golygu tynnu'r rhan fwyaf o'i stumog oddi yno fel ei fod ond yn gallu bwyta ychydig o fwyd ar y tro.
Ymarfer corff
Dywedodd wrth y rhaglen: "Mae wedi bod yn flwyddyn anhygoel. Mae wedi golygu ymrwymiad, canolbwyntio a gwaith caled."
Mae o hefyd yn mynd i'r gampfa am dair awr pob dydd, rhywbeth mae o'n dweud sydd wedi cyfrannu at ei lwyddiant yn colli pwysau.
Ond dywedodd y maethegydd Zoe Harcombe wrth BBC Cymru: "Allwn ni ddim gwneud digon o ymarfer corff i gael gwared ar yr holl sbwriel 'da ni'n rhoi yn ein cyrff."
Esboniodd ei bod hi'n credu bod cyngor Llywodraeth y DU ar beth i'w fwyta yn or-gymhleth ac yn "anghywir".
Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i symleiddio'r cyngor, er enghraifft i fwyta "bwyd go iawn" yn hytrach na "bwyd wedi ei brosesu".
Bydd rhaglen Week In Week Out yn cael ei darlledu ar BBC1 Wales am 10:35pm ddydd Mawrth, Chwefror 14.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2011