'Angen treth ar fwyd brasterog'

  • Cyhoeddwyd
person gordewFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,

£73 miliwn yw cost gordewdra i'r gwasanaeth iechyd

Mae arbenigwr ar ordewdra wedi galw am dreth ar fwyd brasterog i helpu lleihau nifer y bobl ordew yng Nghymru.

Mae Dr Nadim Haboubi yn rhedeg clinig rheoli pwysau yng Nglyn Ebwy ac wedi cynghori'r llywodraeth ar ei strategaeth i fynd i'r afael â gordewdra.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Leslie Griffiths nad oes gan Lywodraeth Cymru'r grym i godi trethi, ond "rydym yn cydnabod bod gordewdra yn broblem gynyddol yng Nghymru ac rydym yn benderfynol i fynd i'r afael â'r broblem".

Mae Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi gwario mwy na £3m yn addasu 42 ambiwlans i gludo cleifion gordew, fe all BBC Cymru ddatgelu.

Mae ffigyrau ddaeth i law dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth hefyd yn dangos bod y gwasanaeth tân yng Nghymru wedi cael eu galw 271 o weithiau i symud cleifion gordew dros y tair blynedd diwethaf.

O'r galwadau hynny, roedd, 149 i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, 104 i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac 18 i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

'Cymhorthdal'

Dywedodd Dr Haboubi: "Pam nad oes cymhorthdal ar fwydydd iachus, ar fwyd organig, ar lysiau, ar ffrwythau ac ar fwydydd â braster isel?

"Pam na roddwn ni dreth ar fwydydd sydd ddim yn iachus, fel yr ydym yn gwneud ar sigarennau ac alcohol?"

Ffynhonnell y llun, Not Specified
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Nadim Haboubi yn rhedeg clinig rheoli pwysau

Dywedodd y byddai angen i dreth o'r fath gynnwys y llywodraeth, archfarchnadoedd a phobl broffesiynol ym myd iechyd.

Yn ôl prif swyddog meddygol Cymru, Dr Tony Jewell, mae tua 22% o oedolion Cymru yn ordew, ac y mae ef o'r farn nad yw un o bob tri o'r boblogaeth yn cael digon o ymarfer corff.

£73 miliwn yw cost gordewdra i'r gwasanaeth iechyd, yn ôl astudiaeth a gomisiynwyd gan Lywodraeth y Cynulliad.

Fe wnaeth astudiaeth Ysgol y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, Prifysgol Abertawe, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, hefyd ddangos bod y gwasanaeth yn gwario dros £1m yr wythnos ar drin problemau iechyd oherwydd gordewdra.