Sicrhau dyfodol cartref Hedd Wyn Yr Ysgwrn
- Cyhoeddwyd
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a phartneriaid wedi cyhoeddi eu bod wedi sicrhau fferm deuluol y bardd Hedd Wyn, Yr Ysgwrn, ar gyfer y genedl.
Mae'r eiddo'n cynnwys y ffermdy, tai allan, byngalo, tir amaethyddol, chwe chadair Eisteddfod a deunydd archifol pwysig.
Gwireddwyd y pryniant oherwydd cyfraniadau ariannol gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol.
Roedd 'na bryderon am gyflwr Yr Ysgwrn er peth amser.
Er bod yr adeilad wrthi'n cael ei ail-doi ar hyn o bryd, roedd ei ddyfodol tymor hir yn ansicr.
Mae'r cyhoeddiad ar Fawrth 1af yn cadarnhau y bydd Yr Ysgwrn a'i gynnwys wedi eu diogelu ac na fyddan nhw'n cael eu rhoi ar y farchnad agored.
Credir fod Yr Ysgwrn, adeilad rhestredig Gradd II, ger Trawsfynydd, yn dyddio o 1519.
Roedd yn gartref i'r bardd Ellis Humphrey Evans - Hedd Wyn - a enillodd y Gadair yn Eisteddfod Penbedw yn 1917 am ei awdl, "Yr Arwr".

Bu farw'r bardd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf
Cafodd ei ladd ym Mrwydr Passchendaele chwe wythnos cyn yr Eisteddfod.
"Mae hyn yn brosiect pwysig iawn," meddai Dr Manon Williams, Ymddiriedolwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri dros Gymru.
"Wrth i ni gyrraedd canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, daw'r aberth a wnaed gan ddynion a merched ifanc Prydain i'r amlwg.
"Fel cynifer, talodd Hedd Wyn y pris yn y pen draw a daeth i symboleiddio colli cenhedlaeth gyfan."
Adroddiad Llŷr Edwards o'r Ysgwrn
Dywedodd nai Hedd Wyn, Gerald Williams, sydd wedi byw yno ar hyd ei oes, iddo addo i'w Nain, mam Hedd Wyn, y byddai'n cadw drws Yr Ysgwrn ar agor.
"Roedd yn ffordd o dalu gwrogaeth i ddewrder a llwyddiant fy ewythr.
"Drwy drosglwyddo'r Ysgwrn i warchodaeth gofalus Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, gwn y bydd f'addewid i fy Nain yn cael ei gadw a'i barchu, a bydd yn Yr Ysgwrn a'r Gadair Ddu yn aros gyda'i gilydd fel uned."
Yn amodol ar dderbyn grant pellach, bwriad Awdurdod y Parc Cenedlaethol yw datblygu canolfan dreftadaeth.
Bydd Cynllun Rheoli yn awr yn cael ei datblygu ar gyfer Yr Ysgwrn mewn partneriaeth â sefydliadau perthnasol, grwpiau â diddordeb ac unigolion.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2011