Cau banciau yn cael effaith ar gymunedau
- Cyhoeddwyd
Mae bancwyr wedi amddiffyn y penderfyniad i gau canghennau sydd ddim yn cael eu defnyddio ddigon wrth i ymgyrchwyr ddweud bod cymunedau yn cael eu gadael heb fawr neu ddim gwasanaethau.
Yn ôl Cymdeithas Bancwyr Prydain mae mwy o gwsmeriaid yn mynd ar-lein erbyn hyn ac mae'n rhaid i'r banciau edrych ar gost cynnal canghennau.
Wrth i gangen HSBC gau yn Llanandras, Powys, dywed y cwmni mai dyma un o'r rhai sy'n cael y lleia' o ddefnydd.
Yn ôl yr Ymgyrch ar gyfer Gwasanaethau Bancio Cymunedol, does gan 21 o gymunedau Cymru ddim un banc erbyn hyn a dim ond un sydd mewn 47.
Er bod yr ymgyrch yn dweud bod hi'n hawdd diffinio cymuned wledig, mae'n anoddach diffinio cymuned drefol fel un heb gangen leol o fewn hanner milltir.
Colli busnesau
Dywedodd HSBC bod cangen Llanandras yn cau ddydd Gwener a'r gangen ym Mlaenafon, Torfaen, i gau ar Fai 11.
Ond maen nhw wedi gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y cwsmeriaid sy'n defnyddio gwasanaethau ac nad ydyn nhw erbyn hyn yn fasnachol ymarferol.
Mae ymgyrchwyr yn y ddwy gymuned yn honni bod busnesau yn yr ardal yn mynd i ddiodde' ac y bydd y gymuned hŷn sy'n ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus i dref leol yn mynd i fod o dan anfantais.
Dywedodd Aelod Seneddol Brycheiniog a Maesyfed, y Democrat Rhyddfrydol Roger Williams, y dylai banciau gadw canghennau fel rhan o orfodaeth a chefnogaeth Y Trysorlys a Banc Lloegr mewn cyfnod economaidd anodd.
"Mae'n rhywbeth y mae pobl mewn dinasoedd yn ei gymryd yn ganiataol," meddai.
"Ond mae'n gwbl allweddol i economi trefi marchnad.
"Sut y gallwn ni ddenu busnesau i'r trefni yma os nad oes yma gyfleusterau bancio?"
O ran y gangen yn Llanandras dywedodd HSBC mai dim ond am 18 awr yr wythnos y mae'r banc ar agor ar hyn o bryd.
Cyfleusterau 24 awr
"Mae'r nifer sy'n defnyddio'r banc wedi gostwng yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ac mae'n un o'r rhai sydd yn cael ei ddefnyddio leiaf yn y wlad.
"Mae arferion cwsmeriaid yn newid, yn defnyddio canghennau yn agos at eu gwaith neu yn defnyddio cyfleusterau 24 awr y we neu'r ffôn.
"Mae'n rhaid i'n gwasanaeth fod yn addas ac mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod y canghennau mewn ardaloedd lle maen nhw'n cael eu defnyddio."
Pwysleisiodd Brian Capon, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cymdeithas Bancwyr Prydain, bod cadw rhai canghennau ar agor yn gorbwyso'r adenillion.
"Fel unrhyw fusnes rhaid edrych yn gyson ar y costau sylfaenol ac ystyried yn sylweddol y manteision o gadw'r lle ar agor.
"Yn amlwg os oes 'na gwsmeriaid yn mynd i'r gangen yna mae'n werth ei gadw ond os oes 'na ostyngiad a llai a llai yn mynd drwy'r drws, mae'n werth edrych a oes wir achos i'w gadw ar agor.
"Mae'n benderfyniad anodd - dydi'r banciau ddim am gau canghennau.
"Maen nhw am eu cadw ar agor ond ar yr un pryd mae'n allweddol eu bod yn hyfyw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2012