Busnesau yn cael cyfle i ddysgu mwy am yr Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Bydd cynrychiolwyr tua 80 o fusnesau lleol yn cael cyfle i wybod mwy am yr Eisteddfod Genedlaethol mewn brecwast arbennig yn Y Bont-faen ym Mro Morgannwg.
Yr Eisteddfod a Bwrdd yr Iaith Gymraeg sydd wedi trefnu'r achlysur ddydd Mawrth er mwyn i fusnesau ddarganfod mwy am y brifwyl a fydd yn digwydd yn y sir eleni.
Fe fyddan nhw hefyd yn cael gwybodaeth ynglŷn â sut i ddatblygu'r Gymraeg yn eu busnes.
Eleni bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ar dir hen faes awyr Llandŵ, ger Y Bont-faen a Llanilltud Fawr.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod fod yr ŵyl yn cyfrannu rhwng £6-8 miliwn i'r economi leol.
Pecyn gwybodaeth
Mae disgwyl y bydd rhwng 150,000-160,000 o bobl yn ymweld ag ardal yr Eisteddfod rhwng Awst 4-11.
"Yn ddi-os, gall yr Eisteddfod roi hwb gwirioneddol i fyd busnes, yn enwedig yn ystod yr wythnos ei hun pan fydd miloedd o bobl yn tyrru i'r Brifwyl o bob cwr o Gymru a thu hwnt, " meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol
"Ein bwriad drwy gynnal y brecwast, ac wrth gynhyrchu pecyn gwybodaeth arbennig ar gyfer y sector preifat, yw cynnig canllaw ar sut i fod yn rhan o'r effaith economaidd bositif a ddaw i'r ardal yn sgil ymweliad yr Eisteddfod."
Dywedodd Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith, eu bod yn awyddus i helpu cwmnïau lleol i ddarparu croeso Cymreig a Chymraeg i Eisteddfodwyr.
"Mae'n Tîm Cefnogi Busnes eisoes yn cydweithio gyda nifer o gwmnïau lleol, gan gynnig cefnogaeth a chyngor, ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda rhagor o fusnesau wrth i ymweliad yr Eisteddfod agosáu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2012