Adroddiad am bron 20 mlynedd o waith Bwrdd yr Iaith Gymraeg
- Cyhoeddwyd
![Logo Bwrdd yr Iaith Gymraeg](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/304/mcs/media/images/59029000/jpg/_59029760__58491169_58488888-1.jpg)
Fe fydd y Bwrdd yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth
Mae adolygiad o waith Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi ei gyhoeddi wythnosau cyn y daw'r corff i ben.
Mae'n crynhoi holl weithgareddau'r bwrdd gafodd ei sefydlu yn 1993.
Ar Ebrill 2 bydd ei gyfrifoldebau'n cael eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru a'r Comisiynydd Iaith, Meri Huws.
Mae'r adolygiad yn cynnig argymhellion ar gyfer y dyfodol.
Iwan Griffiths yn holi Marc Phillips, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Wrth lansio'r ddogfen, lleisiodd cadeirydd y bwrdd, Marc Phillips, ei farn ynglŷn â sut y dylai'r iaith gael ei hybu.
Dywedodd ei fod yn croesawu penodi swydd comisiynydd y bydd ei rôl yn "fwy grymus".
"Bydd rhan helaeth y gwaith yn gyfrifoldeb uniongyrchol y llywodraeth," meddai.
"Yn sicr, bydd 'na fwy o atebolrwydd.
"Ond mae'n gam dewr gan y llywodraeth i gymryd cyfrifoldeb llawn am yr iaith a bydd yn galw am newid diwylliant gweithredu sylweddol o fewn y Gwasanaeth Sifil."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2011