Trydaneiddio'n 'allweddol' i gynllun 'metro' de Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau ar gyfer system reilffordd 'metro' fydd yn cwmpasu ardaloedd 10 cyngor gwahanol wedi cael eu hamlinellu yn ystod cyfarfod grŵp cludiant.
Ond mae Cynghrair Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru yn dweud bod trydaneiddio'r rhwydwaith yn allweddol i'r cynlluniau.
Datgelwyd y cynlluniau ddiwrnod wedi i Ysgrifennydd Drafnidiaeth y DU, Justine Greening, ddweud bod yna "achos da" dros ystyried trydaneiddio llinellau'r cymoedd.
Yr wythnos hon bu dirprwyaeth drawsbleidiol o ACau ac arweinwyr busnes yn lobïo San Steffan ar y mater.
Cafodd yr awgrymiadau ar gyfer system drafnidiaeth ar gyfer de ddwyrain Cymru eu datgelu yn ystod cyfarfod Cynghrair Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru ym Mhenybont-ar-Ogwr.
45 munud
Mae'r cynlluniau yn rhagweld teithwyr yn medru teithio dros ardaloedd 10 cyngor, o Sir Fynwy i Fro Morgannwg, mewn 45 munud o naill ai Caerdydd neu Gasnewydd.
Dywedodd y grwpiau cludiant y byddai'r cynlluniau yn darparu "rhwydwaith drafnidiaeth gynhwysfawr a chynialadwy i gwrdd â gofynion y 21ain Ganrif".
Mae Ms Greening wedi wynebu nifer o alwadau gan wleidyddion Cymru i ystyried ychwanegu llinellau'r cymoedd i'r cynllun £1 biliwn i drydaneiddio y brif linell rheilffordd rhwng Llundain a Chaerdydd a gyhoeddwyd blwyddyn yn ôl.
Mis diwethaf dywedodd Carl Sargeant, Gweinidog Trafnidiaeth Cymru, bod trydaneiddio llinellau'r Cymoedd a'r llinell Great Western i Abertawe yn "hanfodol".