100 mewn protest yn ysbyty Llwynhelyg
- Cyhoeddwyd
Roedd dros 100 o ymgyrchwyr mewn protest yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd fore Iau yn erbyn cynigion i ad-drefnu gwasanaethau gofal.
Dywedodd yr ymgyrchwyr eu bod wedi colli hyder yn y bwrdd iechyd lleol a'u bod yn pryderu y bydd gofal brys a llawfeddygol yn cael eu symud o'r ysbyty.
Mae'r bwrdd Iechyd Hywel Dda yn adolygu eu gwasanaethau gan gynnwys adrannau ddamweiniau Ysbyty'r Tywysog Philip, Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Llwynhelyg, ac Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.
Dywedodd y Bwrdd nad yw'r model presennol ar gyfer gwasanaethau brys ac unedau gofal dwys yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn gynaliadwy.
Mae'r bwrdd wedi cyhoeddi dogfen drafod sy'n cynnwys nifer o awgrymiadau gan glinigwyr.
Ym mis Rhagfyr daeth adroddiadau bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cyhoeddi cau Uned Man Anafiadau mewn dau ysbyty, Ysbyty Ddinbych-y-pysgod a De Sir Benfro, er mwyn cynnal y gwasanaeth brys yn Ysbyty Llwynhelyg
Yn ôl y bwrdd fe fydd y cynllun yn dod i rym ar Ionawr 3 2012.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2011