'Cloddfa aur gwerth £125m' yn Nolgellau, Gwynedd

  • Cyhoeddwyd
Dug a Duges Caergrawnt ar ddiwrnod eu priodasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Duges Caergrawnt fodrwy briodas o Aur Cymru

Gallai gwerth £125m o aur fod yn gorwedd o dan y ddaear yn Nolgellau, Gwynedd, yn ôl adroddiad newydd.

Gwnaed yr ymchwil gan yr ymgynghorwyr mwyngloddio Snowden ar ran cwmni Gold Mines of Wales.

Ond ychwanegodd yr adroddiad bod y ffigurau yn "ddamcaniaethol".

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr GMW, Ed McDermott, y gallai 500,000 ownsys fod yn werth hyd at $200m (£125m).

"Mae hwn yn ddatganiad annibynnol gan gwmni sy'n cael ei ymddiried gan y Gyfnewidfa Stoc i roi cyfrif gwir a theg".

Dywedodd Dr Simon Dominy ar ran cwmni Snowden, bod angen mwy o astudiaethau i gasglu rhagor o wybodaeth.

Mae Aur Cymreig yn cael ei ddefnyddio mewn gemwaith ar draws y byd ers canrifoedd.

1923

Ers pan briododd y Fam Frenhines yn 1923 mae 'na aur o Gymru wedi ei ddefnyddio mewn modrwyau i'r priodferched brenhinol.

O'r un darn o aur y cafodd modrwyau Y Frenhines, Y Dywysoges Margaret, Y Dywysoges Frenhinol a'r Dywysoges Diana eu gwneud.

Daeth yr aur o gloddfa Clogau, Bontddu ger Dolgellau.

Prin iawn yw'r hyn sydd ar ôl o'r darn gwreiddiol ond fe dderbyniodd y Frenhines fwy o aur yn rhodd gan y Lleng Brydeinig Frenhinol yn 1981.

O'r aur hwnnw y cafodd modrwy Sarah Duges Efrog ei gwneud yn 1986 a modrwy Duges Cernyw.

Aur Cymreig hefyd a ddefnyddiwyd adeg priodas y Tywysog William a Catherine Middleton y llynedd.

Fe gaeodd cloddfa Clogau ger Dolgellau yn 1998 a chloddfa Gwynfynydd yn 1999.

Mae gwerth aur wedi codi'n fawr ers hynny, o $300 yr owns (£187), i ryw $1,600 (£1,001).

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol