Stephen Jones i adael y Scarlets am Wasps

  • Cyhoeddwyd
Stephen JonesFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae Stephen Jones wedi chwarae dros 300 gwaith i'r Scarlets

Fe fydd y maswr Stephen Jones yn gadael y Scarlets ar ddiwedd y tymor.

Daeth cadarnhad gan y clwb ddydd Mercher.

Dywed y bydd Jones, 34 oed, yn gadael i fynd i Loegr er mwyn wynebu her newydd ar ôl 15 mlynedd o wasanaeth i'r clwb.

Mae Jones, sydd wedi cynrychioli Cymru a'r Llewod, wedi chwarae 313 o weithiau i'r tîm a bydd yn ymuno â thîm Wasps ar gyfer tymor 2012/13.

Mae'n dal y record am y chwaraewr i sgorio'r mwya o bwyntiau i'r rhanbarth, 2,85o.

Yn ystod ei yrfa gyda'r Scarlets mae Jones wedi gweld newid i'r gêm ranbarthol.

Dywed bod hi'n amser i symud ymlaen i rywbeth newydd ar ôl rhoi ei arbenigedd i sêr ifanc y dyfodol gyda'r Scarlets.

'Symud ymlaen'

Caiff Jones ei weld fel un o sêr rygbi'r gorllewin ac yn esiampl i'r chwaraewyr ifanc a'r cefnogwyr.

Er ei fod yn gadael, dywed Jones y bydd ei galon yn parhau yn y gorllewin a'i fod yn gadael gydag "atgofion melys".

Dywedodd ei fod yn dymuno cael y cyfle i chwarae yn Lloegr cyn i'w yrfa ddod i ben.

Cafodd ddwy flynedd yn chware yn Ffrainc.

"Mae'r amser yn iawn i symud ymlaen gyda fy ngyrfa rygbi," meddai Jones.

"Mae'r Scarlets yn dangos cymaint o addewid i adeiladu ar gyfer y dyfodol gyda chriw o chwaraewyr talentog a fydd yn mynd o nerth i nerth o hyn ymlaen.

"Dwi'n teimlo'n freintiedig iawn i fod wedi bod yn rhan o'r clwb arbennig yma am gymaint o flynyddoedd ac mewn cyfnod newydd.

"Dwi'n gobeithio fy mod wedi gallu rhoi fy mhrofiad i'r rhai ifanc gan roi budd i'r rhanbarth yn y blynyddoedd i ddod."

Cychwynnodd Jones i chwarae gyda'r Scarlets yn 18 oed a dywedodd ei bod wedi bod "yn anrhydedd" i wisgo'r crys coch bob tro.

Ychwanegodd ei bod yn mynd i fod yn anodd gadael ond iddi fod yn freuddwyd ganddo i chwarae rhywbryd yn Lloegr a'i fod yn edrych ymlaen at yr her newydd o ymuno â Wasps.

"Hoffwn ddiolch i'r chwaraewyr, yr hyfforddwyr a'r cefnogwyr drwy gydol fy ngyrfa," meddai.

Dywedodd Nigel Davies, prif hyfforddwr y Scarlets bod Jones wedi ennill y parch mwy o fewn y byd rygbi yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

"Rydym yn parchu penderfyniad Stephen i symud ac yn dymuno'r gorau iddo gyda Wasps.

"Mae'n gadael gyda'n diolch mwya' fel rhanbarth ac am bopeth a wnaeth yn y crys coch.

"Mae o wedi bod yn rhan allweddol o hanes modern y clwb....ac mae'n un o'r Scarlets mwya profiadol."

Ychwanegodd fod Jones wedi rhoi llawer i'r clwb ar ac oddi ar y cae ac yn ddylanwad mawr ar ei garfan dros y tair blynedd diwethaf.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol