Enwi'r milwr o Gymru a fu farw

  • Cyhoeddwyd
Lee Thomas DaviesFfynhonnell y llun, MOD

Mae enwau'r ddau filwr o Brydain a gafodd eu lladd yn Afghanistan dros y penwythnos wedi cael eu cyhoeddi gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Fe gafodd y ddau eu saethu'n farw gan ddynion oedd yn gwisgo dillad heddlu Afghanistan.

Roedd yr is gorpral Lee Thomas Davies, 28 oed ac yn enedigol o Gaerfyrddin ond yn byw yn Aberteifi, yn aelod o'r gwarchodlu Cymreig.

Y milwr arall oedd corporal Bren John McCarthy, 25 oed, o'r Awyrlu.

Roedd y ddau yn rhan o lu diogelwch oedd yn gwarchod swyddogion lleol.

Dywedodd yr uwchgapten Julian Salusbury fod yr is-gorporal yn filwr balch, "ac yn falch o wasanaethu gyda'r gwarchodlu Cymreig.

"Roedd e'n deall ei rôl i'r dim. Roedd e yn ceisio helpu heddlu Afghanistan wrth geisio gwneud talaith Helmand yn lle mwy diogel.

"Roedd e'n derbyn y risg o fod yn filwr ac mae e wedi'r talu'r pris uchaf.

"Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r is-gorporal - ni chaiff e ei anghofio."

'Addewid'

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn mewn datganiad bod teulu Lee Thomas Davies wedi eu chwalu gan ei farwolaeth a'u bod yn dymuno cael llonydd i alaru yn y cyfnod anodd hwn.

Pennaeth y Gwarchodlu Cymreig yw'r Is-gyrnol Dino Bossi, a dywedodd:

"Mae'r gwarchodlu Cymreig wedi colli dyn o addewid amhrisiadwy oedd yn byw ac anadlu gwerthoedd a safonau'r Gwarchodlu.

"Bydd colled enfawr ar ei ôl ac rydym yn estyn ein cydymdeimlad i'w deulu."

Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Philip Hammond: "Roedd y ddau filwr yn perfformio rôl werthfawr yn hyfforddi a mentora heddlu Afghanistan gan sicrhau na fydd Afghanistan fyth eto yn lle y gall terfysgwyr rhyngwladol ei ddefnyddio fel man i lansio ymosodiadau ar ein cymdeithas.

"Ni fydd eu haberth yn ofer, ac ni fyddwn yn eu hanghofio."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol